Bragdy Lleu yn poeni am newid mewn trefniadau trethi

Mi fyddai cael gwared ar y drefn bresennol yn costio tuag 20c y peint

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Bragdy Lleu

Tudalen gartref gwefan y bragdy

Mae bragdy ym Mhenygroes yn poeni am effaith posib newidiadau mewn trefniadau treth i fragdai bach.

Yr ofn ydi y bydd y Llywodraeth yn Llundain yn dileu rhyddhad treth sydd wedi helpu bragdai crefft a bragdai newydd gan dorri 50% oddi ar y dreth gwrw – tua 20c y peint.

“Dydan ni ddim yn gwybod eto sut mae hyn yn mynd i effeitho arnon ni, ond mae unrhyw beth syn creu ansicrwydd yn achosi pryder,” meddai Robat Jones o Fragdy Lleu, sy’n cynhyrchu cwrw fel Blodeuwedd, Lleu, Gwydion a Bendigeidfran.

“Mae 20c y peint yn lot o bres – y dreth ydi hanner ein costau ni. Mae’r ffaith bod y rhyddhad yna yn holl bwysig i fragdai bach yn enwedig rhai mewn ardaloedd gwledig lle mae’n llawer mwy anodd cyrraedd y marchnadoedd.

“Mae hyn yn creu consyrn a’r ofn ydi y bydd y Llywodraeth yn tynnu’r rhyddhad o’na. Mae hynna’n creu ansicrwydd ar adeg pan mae’r covid yn golygu bod ein marchnad wedi diflannu.”

Mae bragwyr bach eraill wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ffafrio’r bragdai masnachol mawr.

Yn ôl Robat Jones mae busnes yn gwella ychydig i fragdai fel Bragdy Lleu wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau llacio.