Taith o dashbord y tractor

Y daith o gwmpas Dyffryn Nantlle – o dashbord y tractor!

Guto Jones
gan Guto Jones

Cynhalwyd 5ed taith tractor y dyffryn ddiwedd mis dwythaf.

Bu’r diwrnod yn lwyddiant mawr, wrth i elw’r diwrnod fynd tuag at gronfa Achub Calon y Dyffryn a Sefydliad y Galon (BHF).

Rhoddwyd gamera ar ben blaen un tractor, er mwyn ffilmio’r daith – a dyma’r canlyniad!