Am y tro cyntaf ers 100 mlynedd roedd cerddoriaeth o fewn muriau’r hen Stag’s Head ym Mhenygroes. Fe’i codwyd yn 1828, fel tafarn oedd yn manteisio ar dwf y boblogaeth yn ardal chwareli llechi Dyffryn Nantlle.
Caeodd y Stag’s Head ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a chafodd yr adeilad sawl enw – ‘Muriau Stores’, ond i bawb yn yr ardal, ‘Siop Griffiths’, oedd yr ironmongers hen ffasiwn. Pan gaeodd Siop Griffiths ei drysau yn 2010 roedd yn wag tan prynodd y gymuned yr adeilad eiconig yn 2016. Ym mis Chwefror eleni daeth bywyd newydd yn ôl i’r adeilad pan agorodd caffi – ‘Yr Orsaf’ – ac yn y mis diwethaf mae ystafell gymunedol arall wedi’i hagor – Y Parlwr. Mae pen yr hudd wedi cymryd ei le unwaith eto (un pren y tro hwn!).
Dros y penwythnos cynhaliwyd y gig gyntaf yno, gyda Elidyr Glyn, Gwenno Fôn a Tomos Gibson . Roedd y lle yn llawn, ac mae pawb yn edrych ymlaen at y gig nesaf.