Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yn Arfon

Brengain Glyn
gan Brengain Glyn

Hywel Williams yn cadw Arfon ac yn cynyddu ei fwyafrif

  • Hywel Williams (Plaid Cymru) – 13,134
  • Steffie Williams Roberts (Llafur) – 10,353
  • Gonul Daniels (Ceidwadwyr) – 4,428
  • Gary Gribben (Plaid Brexit) – 1,159

02:14

Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd! Ac yn cipio sedd Arfon… Hywel Williams gyda 13,134 pleidlais!

Yn dilyn mae:

-Steffie Williams Roberts(Llafur) gyda 10,353
-Gonul Daniels(Ceidwadwyr) gyda 4,428
-Gary Gribben(Plaid Brexit) gyda 1,159.

Felly, bydd Hywel Williams, Plaid Cymru yn ein cynrychioli am y pum mlynedd nesaf.

02:06

Canlyniad Arfon –

Posted by DyffrynNantlle360 on Thursday, 12 December 2019

01:25

01:24

Y gobaith yw fydd canlyniad Arfon yn cael ei gyhoeddi cyn 2am

01:22

Steffie Williams Roberts, Llafur yw’r ymgeisydd nesaf i gyrraedd ac yn barod am y canlyniad heno. Roedd mwy o bwyslais ar Brexit yng nghanlyniadau rhagdybiaeth yr etholiad nag yr oedd hi wedi ei feddwl.

01:11

Rhagfynegiadau

Mae Tomos a finnau yn rhagfynegi mai Plaid Cymru fydd yn cymryd sedd Arfon, ond y bydd Llafur yn gystadleuaeth gref iawn. Bydd y cwbl yn cael ei ateb o fewn ychydig oriau!

00:53

Dim golwg o Steffie Williams (Llafur), na Gary Gribben (Plaid Brexit) yng Nghaernarfon. Hywel Williams a Gonul Daniels wrthi’n trafod gyda eu cefnogwyr.

00:26

Yr ail ymgeisydd Gonul Daniels wedi cyrraedd ac wrth ei bodd gyda rhagfynegiad ledled Prydain, ond yn siomedig nad oes yr un gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yma yn Arfon.

00:07

Maint y bleidlais yn Arfon:

Nifer yr etholwyr – 42,215

Nifer sydd wedi pleidleisio – 29,166

Canran sydd wedi pleidleisio – 69.09%
(68.2% wedi pleidleisio yn 2017)

23:47

Y si yma’n Arfon yw ei bod hi’n edrych yn addawol i Plaid Cymru