Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yn Arfon

Brengain Glyn
gan Brengain Glyn

Hywel Williams yn cadw Arfon ac yn cynyddu ei fwyafrif

  • Hywel Williams (Plaid Cymru) – 13,134
  • Steffie Williams Roberts (Llafur) – 10,353
  • Gonul Daniels (Ceidwadwyr) – 4,428
  • Gary Gribben (Plaid Brexit) – 1,159

22:10

Roedd hi’n hynod o agos rhwng Plaid Cymru a Llafur yn Arfon nol yn 2017, gyda Plaid Cymru yn ennill o 92 pleidlais (11,519 i Plaid Cymru, 11,427 i’r blaid Lafur). Mae hi’n argoeli i fod yn agos unwaith eto. Pwy da chi’n meddwl sydd am fynd a hi?

22:06

22:01 – Da ni’n fyw o’r ganolfan hamdden yng Nghaernarfon heno, ar gyfer canlyniad yr etholiad cyffredinol yn Arfon. Mi fydd Brengain Glyn a Tomos Mather yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi trwy’r nos.