Oes rhywun wedi gweld ymgeisydd Plaid Brexit Arfon heno / erioed?
Hywel Williams yn cadw Arfon ac yn cynyddu ei fwyafrif
- Hywel Williams (Plaid Cymru) – 13,134
- Steffie Williams Roberts (Llafur) – 10,353
- Gonul Daniels (Ceidwadwyr) – 4,428
- Gary Gribben (Plaid Brexit) – 1,159
Maint y bleidlais yn Arfon:
Nifer yr etholwyr – 42,215
Nifer sydd wedi pleidleisio – 29,166
Canran sydd wedi pleidleisio – 69.09%
(68.2% wedi pleidleisio yn 2017)
Y si yma’n Arfon yw ei bod hi’n edrych yn addawol i Plaid Cymru
Hywel Williams yw’r unig ymgeisydd yn y ganolfan ar hyn o bryd, ac yn brysur yn siarad gyda’r wasg. Dipyn o gefnogwyr Llafur yma, ond dim llawer o’r Ceidwadwyr na’r blaid Brexit i’w gweld.
Tomos a minnau wedi cael sgwrs ddiddorol hefo Hywel Williams, lle’r oedd yn obeithiol am y canlyniadau heno yn Arfon, ac wedi disgrifio’r ymgyrch fel un o’i rai taclusa’ o’i yrfa.
Ymgeisydd Plaid Cymru Hywel Williams wedi cyrraedd. Yr ymgeisydd cyntaf hyd yn hyn.
Os di Arfon yn troi’n goch heno o ganlyniad i bleidleisio tactegol / pleidleisio ‘dros Corbyn’… ydi o rili werth o rwan?! Jest cwestiwn.
— Gethin Griffiths (@gethingriffiths) December 12, 2019
Yn brysur yma yng Nghaernarfon, bocsys yn hedfan i mewn. Pwy sydd ar y blaen dybed?
A dyma sydd yn bwysig i Pwyll o Ysgol Syr Hugh Owen…
Ac wrth sôn am bobol Ifan Arfon, dyma rhai o’r materion sydd yn bwysig iddyn nhw…
Mae rhai o ysgolion Arfon wedi bod yn cynnal pleidlais i’r disgyblion, a dyma’r canlyniad o ysgol Tryfan!
Canlyniad i’r etholiad yn Ysgol Tryfan. Diolch yn fawr i’r holl ymgeiswyr pic.twitter.com/KIqYaHSDtk
— Ysgol Tryfan (@ysgol_tryfan) December 11, 2019