Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yn Arfon

Brengain Glyn
gan Brengain Glyn

Hywel Williams yn cadw Arfon ac yn cynyddu ei fwyafrif

  • Hywel Williams (Plaid Cymru) – 13,134
  • Steffie Williams Roberts (Llafur) – 10,353
  • Gonul Daniels (Ceidwadwyr) – 4,428
  • Gary Gribben (Plaid Brexit) – 1,159

23:27

Tomos a minnau wedi cael sgwrs ddiddorol hefo Hywel Williams, lle’r oedd yn obeithiol am y canlyniadau heno yn Arfon, ac wedi disgrifio’r ymgyrch fel un o’i rai taclusa’ o’i yrfa.

23:05

Ymgeisydd Plaid Cymru Hywel Williams wedi cyrraedd. Yr ymgeisydd cyntaf hyd yn hyn.

22:54

22:49

Yn brysur yma yng Nghaernarfon, bocsys yn hedfan i mewn. Pwy sydd ar y blaen dybed?

22:36

A dyma sydd yn bwysig i Pwyll o Ysgol Syr Hugh Owen…

22:33

Ac wrth sôn am bobol Ifan Arfon, dyma rhai o’r materion sydd yn bwysig iddyn nhw…

22:31

Mae rhai o ysgolion Arfon wedi bod yn cynnal pleidlais i’r disgyblion, a dyma’r canlyniad o ysgol Tryfan!

22:28

22:25

Bocsys cyntaf wedi cychwyn cyrraedd y Ganolfan Hamdden i’r cyfri. Cyfri’r pleidleisiau wedi dechrau. Y bocs cyntaf o’r Ysgol Santes Helen wedi cyrraedd.

22:19

Heddiw, bu Bro360 yn holi rhai o bobol Arfon sut yr oeddynt wedi Pleidleisio, a dyma oedd yr ymateb!

Allan o 109 o bobol, roedd ’na 64 wedi cefnogi Plaid Cymru, 39 pleidlais i Llafur, 5 i’r Ceidwadwyr ac 1 i’r blaid Brexit. Arwydd o beth sydd i’w ddod yn Arfon?