Hywel Williams yn cadw Arfon ac yn cynyddu ei fwyafrif
- Hywel Williams (Plaid Cymru) – 13,134
- Steffie Williams Roberts (Llafur) – 10,353
- Gonul Daniels (Ceidwadwyr) – 4,428
- Gary Gribben (Plaid Brexit) – 1,159
Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd! Ac yn cipio sedd Arfon… Hywel Williams gyda 13,134 pleidlais!
Yn dilyn mae:
-Steffie Williams Roberts(Llafur) gyda 10,353
-Gonul Daniels(Ceidwadwyr) gyda 4,428
-Gary Gribben(Plaid Brexit) gyda 1,159.
Felly, bydd Hywel Williams, Plaid Cymru yn ein cynrychioli am y pum mlynedd nesaf.
Canlyniad Arfon –
Posted by DyffrynNantlle360 on Thursday, 12 December 2019
Staff yng Nghaernarfon yn brysur wrth eu gwaith yn cyfrif pleidleisiau etholaeth #Arfon #Etholiad2019 #GE2019 pic.twitter.com/1v5r6KSM2d
— CyngorGwyneddCouncil (@CyngorGwynedd) December 13, 2019
Y gobaith yw fydd canlyniad Arfon yn cael ei gyhoeddi cyn 2am
Steffie Williams Roberts, Llafur yw’r ymgeisydd nesaf i gyrraedd ac yn barod am y canlyniad heno. Roedd mwy o bwyslais ar Brexit yng nghanlyniadau rhagdybiaeth yr etholiad nag yr oedd hi wedi ei feddwl.
Rhagfynegiadau
Mae Tomos a finnau yn rhagfynegi mai Plaid Cymru fydd yn cymryd sedd Arfon, ond y bydd Llafur yn gystadleuaeth gref iawn. Bydd y cwbl yn cael ei ateb o fewn ychydig oriau!
Dim golwg o Steffie Williams (Llafur), na Gary Gribben (Plaid Brexit) yng Nghaernarfon. Hywel Williams a Gonul Daniels wrthi’n trafod gyda eu cefnogwyr.
Yr ail ymgeisydd Gonul Daniels wedi cyrraedd ac wrth ei bodd gyda rhagfynegiad ledled Prydain, ond yn siomedig nad oes yr un gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yma yn Arfon.
Maint y bleidlais yn Arfon:
Nifer yr etholwyr – 42,215
Nifer sydd wedi pleidleisio – 29,166
Canran sydd wedi pleidleisio – 69.09%
(68.2% wedi pleidleisio yn 2017)
Y si yma’n Arfon yw ei bod hi’n edrych yn addawol i Plaid Cymru