EDRYCH YN ÔL – Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle

angharad tomos
gan angharad tomos

Mae’r Gymdeithas Hanes yn un boblogaidd,
ac mae rhywbeth at ddant pawb yma.
Drwy’r Gaeaf, bydd darlith fisol ar ryw agwedd
o hanes y dyffryn. Yng Nghapel y Groes y
maent yn cyfarfod ar yr ail nos Iau yn
y mis (ar wahan i Ddarlith y Llyfrgell)

£5 yw’r tâl am flwyddyn, a 7.30pm yw’r amser.

Tachwedd 7: (sylwer, nos Iau gyntaf y mis)
Darlith Llyfrgell Penygroes
Ffion Eluned Owen, Y Groeslon
‘Sul, Gŵyl a Gwaith’
Diwylliant Dyffryn Nantlle yn hanner cyntaf yr G20.
Y ddarlith i’w chynnal yn Ysgol Dyffryn Nantlle am 7.30

Rhagfyr 12: Meinir Pierce Jones, Nefyn
‘Hwylio ar ôl hen-daid’

Ionawr 9: Mari Emlyn, Y Felinheli
‘Awduron o’r iawn ryw’

Chwefror 13: Gareth Haulfryn Williams, Dolydd
‘Llwythi Llongau Llŷn’

Mawrth 12: John Dilwyn Williams, Penygroes
‘Agwedd ar hanes Dyffryn Nantlle’
a’r Cyfarfod Blynyddol

Taith Flynyddol (i’w threfnu)