Proffiliau Ymgeiswyr Arfon – Plaid Cymru

Brengain Glyn
gan Brengain Glyn

Yr wythnos yma, rydym yn edrych ar ymgeiswyr etholaeth Arfon, cyn yr etholiad dydd Iau. Dyma gyfle i edrych ar ymgeisydd Plaid Cymru, Hywel Williams.

Cafodd Hywel Williams ei eni a’i fagu ym Mhwllheli, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Troed yr Allt, Ysgol Ramadeg Pwllheli ac yna ysgol Glan y Môr. Astudiodd seicoleg yn y brifysgol yng Nghaerdydd, cyn cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.  Roedd yn weithiwr cymdeithasol iechyd meddwl yn ardal Dwyfor, cyn ymuno â’r Ganolfan Ymarfer Gwaith cymdeithasol ym Mangor yn 1985. Cafodd ei ethol i gynrychioli Caernarfon yn yr etholiad cyffredinol yn 2001, yn dilyn ymddeoliad Dafydd Wigley, ac eto yn 2005. Yn 2010, cafodd ei ethol fel cynrychiolydd etholaeth newydd, Arfon, ac eto yn 2015 a 2017. Dyma eu prif flaenoriaethau;

 

  1. Swyddi ‘gwyrdd’

Er mwyn i Gymru arwain y byd ar sut i ddelio gyda newid hinsawdd, mae Plaid Cymru yn credu ei bod hi’n angenrheidiol buddsoddi i greu swyddi sydd yn dda i Gymru, ac yn dda i’r blaned. Er enghraifft, rhai o’r ffyrdd y gallai Cymru gyfrannu at y lleihad o lefelau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr yw drwy:

  • Greu swyddi sydd yn hybu ynni sydd yn dod o’r gwynt, dŵr a’r haul yn lle carbon.
  • Buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel ei fod o safon uwch fel bod llai o bobl yn defnyddio ceir (lleihau ar all-yriaeth carbon deuocsid).
  • Atal y defnydd o garbon yn gyfan gwbl erbyn 2030.
  • Atal cynhyrchu a gwerthu plastigion un-defnydd, yn gyfan gwbl, megis poteli plastig.

 

  1. Cynnig y cymorth haeddiannol i bobl Cymru

Mae gwasanaethau iechyd a chymdeithasol Cymru wedi bod mewn trafferthion, yn bennaf oherwydd y toriadau cyllid sydd wedi eu gwneud gan ein llywodraeth ni. Er mwyn gwella ein GIG (Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol), mae’r camau y mae Plaid Cymru yn bwriadu eu cymryd yn cynnwys;

  • Rhoi gofal cymdeithasol am ddim i bobl hŷn, ac i unrhyw un sydd angen cymorth ychwanegol ar draws Cymru.
  • Cyflogi 1,000 o feddygon newydd.
  • Cyflogi 5,000 o nyrsys newydd.
  • Cyflogi 100 o ddeintyddion newydd.
  • Rhoi rhagor o arian i wasanaethau sydd yn helpu atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf.
  • Ymladd i wneud yn siŵr nad ydy’r GIG yn cael ei werthu i gwmnïau preifat. A’i fod yn parhau i fod am ddim i’r bobl sydd ei angen.
  • Maent yn credu na ddylai cwmnïau preifat wneud elw o bobl sydd yn sâl.

 

  1. Helpu plant o deuluoedd tlawd

Mae wedi dod i’r amlwg yn y flwyddyn ddiwethaf fod plant sydd yn dod o deuluoedd llai breintiedig yn cael llai o gyfleodd cymdeithasol ac addysgol na’r rhai sy’n dod o deuluoedd dosbarth canol. Er mwyn atal yr anghydraddoldeb hwn, mae Plaid Cymru yn bwriadu:

  • Rhoi £35 yr wythnos i deuluoedd tlawd ar gyfer pob un o’u plant.
  • Cynnig gofal plant am ddim ac addysg blynyddoedd cynnar i bob plentyn rhwng 1 a 3 oed.
  • Rhoi £300 miliwn y flwyddyn i’n hysgolion a’n colegau ni yng Nghymru, i wneud yn siŵr bod plant Cymru yn cael yr addysg orau.

 

  1. Gwneud tai yn fwy teg

Ar y funud, mae’r bobl sydd yn rhentu’u tai yma yng Nghymru yn cael bargen wael. Mae llawer o’r bobl sydd yn rhentu eu cartrefi yn ennill ychydig iawn o arian, ac mae nifer o bobl yn gwario mwy na thraean o’u hincwm nhw ar dai. Cred Plaid Cymru fod pawb yn haeddu cael tai diogel y maen nhw’n gallu eu fforddio. Felly;

  • Maen nhw eisiau rhoi arian i bobl sydd yn talu mwy nag un rhan o dair o’u hincwm nhw ar rent.
  • Adeiladu 20 mil o gartrefi cyngor newydd dros y 5 mlynedd nesaf.
  • Gwneud yn siŵr fod pob cartref newydd yn defnyddio pŵer o’r haul i wneud trydan, ac i gynhesu dŵr.

 

  1. Stopio trosedd

Cymru ydy’r unig wlad yn y DU sydd heb bwerau i wneud penderfyniadau am ei heddlu a’r system gyfiawnder. Er mwyn cael gwasanaethau sydd yn addas i Gymru, mae hyn angen newid. Er mwyn hybu’r system gyfiawnder, bwriad Plaid Cymru yw;

  • Penodi o leiaf 2 swyddog heddlu newydd ym mhob cymuned.
  • Byddai hyn yn arwain at gael 16% o swyddogion heddlu newydd ledled Cymru.
  • Mi fyddai’r swyddogion hyn yn gweithio gyda phobl yn y gymuned i ateb problemau ac atal troseddau cyn iddyn nhw ddigwydd.

 

Crëwyd proffiliau ymgeiswyr Arfon gan Brengain Glyn, Tomos Mather, Tomos Parry a Morgan Siôn Owen (Ysgol Tryfan).