Ar ddiwrnod braf ym mis Medi daeth dros ugain o bobl y Dyffryn a thu hwnt i Dalysarn yn barod am daith a hanner, lle cawsom rannu storiau, sgwrsio, a chael llond wagen o awyr iach. Wrth gerdded o’r maes parcio yn Nhalysarn, neu Orsaf Nantlle yn ei dydd, roeddem yn troedio llwybr y lein fach gul a oedd yn arfer cario y llechi o Chwareli y Dyffryn tuag at eu ffordd i’r Cei yng Nghaernarfon. Aethom heibio ystafell ymarfer Band Nantlle, wedyn Capel Mawr a chyrraedd ceg yr hen lôn a arferai fod y brif ffordd i Nantlle. Mae Twll Chwarel Talysarn ar y chwith a hen safle Y Gloddfa Glai i’r dde, wedi ei wastadu ers tro. Mae’n anodd dychmygu fod pont yn mynd dros ein pennau i gysyllu y ddau le, a hefyd rhesiad o dai yma, ardal Pen yr Yrfa. Mae’r ffordd dan draed yn eithaf gwael ond roedd pawb wedi gwisgo esgidiau addas. Pan gyrraeddasom Plas Talysarn cawsom hanes yr hen ffordd yn syrthio mewn i Dwll Dorothea, dros ganrif yn ôl, nos Sadwrn olaf Ionawr 1924, pan oedd y bws o Gaernarfon newydd pasio am Nantlle. Cawsom gyfle i ddychmygu y Plas ar ei orau, gyda gerddi hardd, Ffynon Ddwr fawr grand, stablau, a chytiau i’r cwn, ac roedd rhain wedi eu teilsio yn gywrain tu mewn! Rheolwr y Chwarel a’i deulu oedd yn byw yma, hyd ei werthu ym 1905 i gwmni Chwarel Dorothea ei ddefnyddio fel Swyddfeydd. Mae’n gymaint o bechod fod y lle wedi mynd a’i ben iddo. Ymlaen a ni wedyn, a cael cip i lawr ar ddwr oer Twll Dorothea, lle roedd deifiwyr yn paratoi i fynd mewn iddo; ond gwell ganddom ni aros ar dir sych! Mae llyniau a fideos o’r dyfnderoedd i’w gweld ar lein. Ar ol pasio y twnel trên ar y chwith, troi fyny am hen dy fferm Pen y Bryn, a’r chwarel sydd tu ol iddo. Roedd hen daid un o’r cerddwyr yn hannu o yma, a cawsom dipyn o’i hanes, a dilyn stori y teulu ar ôl symyd o’r fferm. Mae’n dipyn o dynfa i fyny wedyn, ond y wobr wrth gwrs yw’r golygfeydd a geir. Erbyn cyrraedd hen gwt mochel Gloddfa’r Lôn mae Crib Nantlle i’w weld yn ei ogoniant, fyny am yr Wyddfa, ac i’r chwith Mynydd Mawr, pentref y Fron a Moel Tryfan, wedyn Chwarel Penyrorsedd a Nantllle a’i lyn yn y blaen. Mae’r llwybr wedyn yn codi eto, o gwmpas tomen o rwbel tu ôl i’r cwt (mae wedi ei farcio achos mae’n rhan o’r Llwybr Llechi). Roedd ambell gerddwr yn falch o’u ffyn cerdded ar y rhan yma. Ar ôl y domen roeddem yn gwynebu tyllau mawr Penyrorsedd ac yn rhyfeddu at wyneb syth y graig a bod ein cyn deidiau wedi gweithio yma ym mhob tywydd. Roedd brodor o Garmel ar y daith ac roedd yn cofio y twll yn gweithio, cofio y Blondins, a hefyd prysurdeb Chwarel Cilgwyn, a cawsom ambell stori ddifyr ganddo yntau. Mae darn serth arall cyn cyrraedd y giat fochyn am Cilgwyn, ac mae defaid yn pori yma rhan fwyaf o’r amser, felly trowsus hir amdani (mae defaid yn cario trogod, neu hislod yn yr hen brês, sydd yn beryg i ni). Mae nifer o dyllau llai rhwng Penyrorsedd a Chilgwyn, fel Wern Ifan, Gloddfa Glytiau ac Elen ac mae digon o lyfrau ar gael yn sôn amdanynt oll. Yn yr ail giat, troi i’r chwith wnaethom i wynebu y môr a gweld gweddill y Dyffryn o’n blaenau, a hyd yn oed gweld ein man cychwyn. Mae Twll Cilgwyn wedi ei gau fyny ers tro, ar ôl bod yn Arllwysfa Sbwriel amhoblogaidd; roedd un ohonom wedi cael gwers ddreifio i lawr y chwarel yn y saithdegau! Cilgwyn sy’n dal y teitl o fod yn Chwarel hynaf y Dyffryn, ac roedd y llechi a gwawr goch sidanaidd iddynt, yn ol pob sôn. Mae’r llun du a gwyn yn dangos Blondin uwchben Cilgwyn yn y 1940au. Cawsom gerdded ar hyd y ffordd newydd a adeiladwyd at y “dump” fel ei gelwid yn lleol, gan fwynhau y golygfeydd draw am yr Eifls, a thros Bae Caernarfon. Yn fan hyn roedd dwy inclên yn rhedeg lawr, pan oedd y Chwarel ar ei hanterth, un i Gallt y Fedw, a llall yn syth i’r lein bach ger Chwarel Talysarn, er mwyn cael y llechi i’r farchnad. (Mae’r hên lun o hogia Chwarel Cilgwyn wedi ei dynnu uwchben yr inclen i Talysarn, fy nhaid yw’r un yn yr oferôls!) A syth lawr am Talysarn yr aethom ni; troi i’r chwith heibio bythynod Parc Bel ac ar y llwybr heibio adfail Pen Hafodlas (a dyma adfail gyda golygfa odidog!) Rhaid diolch i rywyn am docio y drain a coed ar y llwybr cul yma. Nôl wedyn am yr hen Orsaf, a pawb wedi gwir fwynhau y daith, gwerthfawrogi y tywydd gwych a gawsom a beth sydd gennym o’n cwmpas yma yn y Dyffryn. Diolch i Yr Orsaf ym Mhenygroes am drefnu ac i’r Arweinyddion am ein cadw yn saff.