Rali Rowen 2024

Yr hanes o’r diwrnod mawr!

Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle

Dros wythnos ers y diwrnod mawr ac rwy’n edrych yn ol gydag atgofion o’r diwrnod prysur.

Er iddi fod yn ddiwrnod hir ofnadwy – dros 15 awr o gystadlu a dathlu – bu i ni fwynhau dros ben. Roedd yr haul wedi dod allan yn Rowen, a phawb yn barod amdani.

Daeth y clwb yn 9fed ar ddiwedd y cystadlu, ond bu i ni orffen ar y podiwm yn bron i bob cystadleuaeth oedden yn cystadlu ynddo, felly da iawn wir.

Dyma’r canlyniadau:

1af – Anni a Tesni, Gem y cenedlaethau iau

1af – Elen, Sialens y Cadeiryddion

1af – Gethin a Sion, Welis Welis Welis

2il – Dawnsio

2il – Elan Mair, Canu unigol

3ydd – Canu grŵp

3ydd – Elan, Tesni a Elin, Ar y newyddion

3ydd – Llyfr Lloffion

3ydd – Sion B a Anna, Gem y cenedlaethau hŷn

3ydd – Sion B, Ras y Ffermwr

4ydd – Arddangosfa fawr

4ydd – Anni, Gosod blodau

Diolch yn fawr i bawb a gynorthwyodd y clwb mewn unrhyw ffordd gyda pharatoadau’r Rali, a diolch yn fawr i Bwn Jackson am y lluniau, gellir gweld mwy o luniau ar dudalen facebook Ffermwyr Ifanc Eryri, ynghyd a’r holl ganlyniadau.