Gŵyl Bêl-Droed 5 Bob Ochr Ysgolion Gwynedd

Hanes Ysgol Llanllyfni yn yr ŵyl 5 bob ochr.

Ysgol Llanllyfni
gan Ysgol Llanllyfni
Tîm Llanllyfni

Tîm Llanllyfni

Tîm Llanllyfni

Tîm Llanllyfni

Ar y 3ydd o Fai cafodd criw o blant blwyddyn 4, 5 a 6 Ysgol Llanllyfni gyfle i chwarae pêl-droed mewn twrnament 5 bob ochr ym Mhlas Silyn, Penygroes.

Roedd Ysgol Llanllyfni yn cystadlu yn erbyn 6 ysgol arall; Bodfeurig, Manod, Cefn Coch, Llanbedrog, Gwaun Gynfi a Garndolbenmaen.

Chwaraeodd Morgan fel gôl-geidwad arbennig gan rwystro llawer o beli rhag gyrraedd cefn y rhwyd. Sgoriodd Tomos, Celt ac Efa goliau gwych a sgoriodd Ioan ddwy gôl fendigedig. Chwaraeodd Oliver, Gwion, Cafan a Gwydion yn gadarn drwy’r dydd.

Llwyddodd y tîm i gyrraedd rownd yr 8 olaf am y tro cyntaf erioed. Yn anffodus, colli o dair gôl i ddim yn erbyn Ysgol Bro Llifon oedd eu hanes.

Diolch i blant blwyddyn 9 Ysgol Dyffryn Nantlle am ddyfarnu’r holl gemau.

Llongyfarchiadau i dîm cymysg Ysgol Bethel ac i dim genethod ysgol Pen y Bryn, Bethesda am ennill.