Gwefr Gardd Wyllt Penygroes

Adlewyrchiad ar fy amser yn yr ardd wyllt i ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr, 3ydd-9fed o Fehefin 2024

Trey McCain
gan Trey McCain
deilen-capan-cornicyll

Deilen oddi ar gapan cornicyll

blodau-yr-ardd-wyllt

Blodau’n tyfu mewn gwelyau’r ardd wyllt

garddio-gydan-gilydd

Cyfle i gymdeithasu a garddio bob bore Mercher o 10yb tan 12yp

Es i lawr i’r ardd wyllt bore Mercher i gyfarfod y criw sy’n gofalu dros y lle. Rydym yn troi i fyny bob bore Mercher, oni bai bod y tywydd yn wlyb iawn, a rŵan rydym am agor giât yr ardd wyllt bob p’nawn dydd Iau ar ôl ysgol hefyd. Mae croeso cynnes.

Mae rhyw wefr lawr yno. Dydy hi ddim yn ddistaw iawn, clywir sŵn y ceir yn pasio’r Co-op ac ar y gylchfan. Ond lawr yn yr ardd mae caneuon yr adar yn codi’n uwch na’r moduron. Mae dail yr helyg yn sibrwd yn y gwynt. Mae’r haul yn torri trwy’r canghennau yma ac acw i ddawnsio dros y tir. Tir digon mwdlyd fel arfer—nid yw’r swyn yn estyn dros bob dim.

Mae cwmni’r gwirfoddolwyr yn fy hudo i hefyd. Rydym i gyd yn dod o lefydd gwahanol, ond mae rhywbeth wedi’n gwreiddio ni efo’n gilydd fama. Mae rhai yn dod efo gwybodaeth eang o blanhigion, eraill yn alluog efo llif a morthwyl, ac eraill efo amser ac egni. Rydym i gyd yn rhoi rhywbeth lawr yn ardd. Ac rydym i gyd yn derbyn rhywbeth hefyd.

Weithiau’r hyn dan ni eisiau derbyn fwyaf ar ôl awr o dynnu a thyllu yw panad a bisged. Mae Gwenllïan wedi edrych ar ein holau ni yn dda dros y ddwy flynedd diwethaf. Does neb yn poeni am fethu torri syched, ac mae’n braf cael oedi efo’n gilydd wedi ymdrech y bore.

Felly oedd echdoe dan helygen yng nghanol yr ardd. Roeddem wedi dod at ein gilydd, yn crafu’r mwd oddi ar fenig ac offer, yn ymestyn ac yn tylino’n cefnau, yn barod i afael ar banad. Mewn cylch dan y goeden roedd rhai yn sefyll ac eraill yn eistedd ar y meinciau, yn sgwrsio am hyn a llall—etholiadau, miwsig Ffrengig, perlysiau i’w plannu, ac yn y blaen. Awgrymodd rywun i ni dorri tyfiant y capan cornicyll (nasturtiums) iddyn nhw dyfu’n ôl yn well wedi’r trawsblannu. Datganodd rywun arall fod y dail yn dda i’w bwyta, nid yn unig y blodau fel oeddwn i’n meddwl. Ac felly cododd un arall o’n plith efo llond braich o’r dail i’w rhannu efo pawb.

Daeth hi atom ni fesul un, yn pori’n fanwl trwy’r dail i ffeindio’r rhai nad oedd wedi’u gwywo. Dail rhyfeddol o grwn sy gan gapan cornicyll, ac mi wnaeth y ffordd ofalgar a gefais ddeilen fy atgoffa o dderbyn y cymun. Ond yn lle rhes daclus o blwyfwyr roedd cylch o arddwyr mwdlyd yn cnoi ac yn gwenu, yn debycach i gyr o eifr yn pori ar gnwd arbennig, cymhariaeth digon teg i’r nifer ohonom ni efo locsyn sgryfflyd. Yn lle offeiriad neu weinidog, roedd Seren yn cyflwyno’r dail i ni. Mae gwên Seren mor gynnes, a hithau mor hael yn ei chynnig i bawb.

Roedd rhyw wefr lawr yn yr ardd y bore hwnnw, yn y moment hwnnw. Wrth edrych o gwmpas arnom ni—yn bwyta, yn chwerthin ac yn mwydro—cefais yr argraff a dyma lle fyddai Iesu wedi bod hefyd. Byddai fo’n cymryd rhan yr un fath â phawb arall, yn mwynhau’r cwmni ac yn estyn urddas i bawb er gwaethaf o le yr ydym wedi dod nac ym mha gyflwr yr ydym ynddo.

Nid oes dameg yn codi o bob sesiwn lawr yn yr ardd wyllt, ond mae’r amser yr ydym yn ei dreulio yn trin y tir yn effeithio arnom ni hefyd. Eli i’r enaid yw oedi am awr neu ddwy mewn byd prysur a swnllyd, gan droi ein hwynebau i lawr at y ddaear, ac yn ôl i fyny at yr haul—neu’r glaw gan amlaf. Dyma rythm sy wedi gwneud lles i fy mywyd i. Mae croeso cynnes i eraill ymuno â ni.

Mae Garddio Gyda’n Gilydd bob bore Mercher o 10yb tan 12yp ym Mhenygroes, Gwynedd. Mae sesiynau wedi’u trefnu gan yr Orsaf, cysylltwch â gwenllian.yrorsaf@gmail.com am fwy o wybodaeth. Mae’r Ardd Wyllt bellach ar agor i bawb bob p’nawn dydd Iau o 3:15yp tan 5:15yp.