Goryrru ym Mhontllyfni

Dyma hanes plant Ysgol Brynaerau yn mynd ati i gynnal arolwg goryrru ym Mhontllyfni

Ysgol Brynaerau
gan Ysgol Brynaerau

Ym mis Ebrill daeth y Cynghorydd Mr Dafydd Davies i’r ysgol i sgwrsio gyda phlant blynyddoedd 4, 5 a 6 am ei swydd fel Cynghorydd. Dywedodd Mr Davies ei fod ar hyn o bryd yn ceisio taclo y broblem o geir yn goryrru trwy bentref Pontllyfni. Roeddem eisiau helpu i ddatrys y broblem ac felly cysylltom gyda’r Uned Diogelwch y Ffyrdd.

Ar ddydd Mawrth, Mehefin 11, daeth Mrs Manon Williams (neu Anti Manon i ni) o Uned Diogelwch y Ffyrdd draw i’r ysgol. Aethom lawr i groesffordd y pentref gydag Anti Manon i gynnal arolwg. Roedd ganddi bedwar teclyn gwn cyflymder. Cawsom ein rhannu i grwpiau ac aethom ati i fesur cyflymder y ceir a oedd yn pasio. Mewn cyfnod byr o awr yn unig (10yb-11yb), mesurwyd cyflymder tua 250 o geir ar gyfartaledd ac roedd 26 ohonynt yn goryrru. Mae hynny yn 10% o’r ceir! Y cyflymder mwyaf a fesurwyd oedd 58 milltir yr awr; 18 milltir yr awr dros y cyflymder. Roedd 16 car yn gyrru rhwng 41-45mya, 5 car yn gyrru rhwng 46-50mya, 3 yn gyrru rhwng 51-55mya a 2 yn gyrru rhwng 56-60mya.

Roedd yn amlwg i ni fod goryrru yn broblem yn y pentref a hynny yn ystod amser eithaf distaw yn ystod y dydd. Meddyliwch beth fuasai’r cyflymder petaem yn mesur yn y bore neu gyda’r nos? Byddwn nawr yn mynd ati fel ysgol i beintio arwyddion i geisio arafu’r traffig a’i wneud yn bentref mwy diogel i ni.