gan
Llio Elenid
![Taith-Gerdded-Llwybrau](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/5/2024/06/Taith-Gerdded-Llwybrau-640x396.jpg?i)
Mae hi’n Wythnos Newyddion Annibynnol wythnos yma, ac i ddathlu hynny yma yn Nyffryn Nantlle mae yna daith gerdded wedi’i threfnu ym Mhenygroes nos Fawrth, y 4ydd o Fehefin.
Byddwn yn cyfarfod o flaen Neuadd Goffa Penygroes am 6pm.
Bydd angen sgidiau cerdded i’r daith, a dillad pwrpasol i’r tywydd, a byddwn yn mynd drwy lwybrau cyhoeddus sy’n gallu bod yn anwastad a thir efo defaid a gwartheg yn pori.
Am fwy o fanylion ac i gadw lle cysylltwch efo llioelenid@outlook.com