Dewch am dro i chwilio am ystlumod

Ac i hel arian ar gyfer cit peldroed tim merched dan 13 Caernarfon.

Bethan Moseley
gan Bethan Moseley
IMG-20240507-WA0005-1
IMG-20240507-WA0005-2

Mae llawer o bobl ifanc Dyffryn Nantlle yn chwarae i dîm pêl-droed Caernarfon. Dewch am dro, cwrdd pobl newydd, a mwynhau byd natur yng nghwmni arbennigwr ystlumod Bethan Moseley. Mae merch Beth yn chwarae i dîm Caernarfon ac angen cit newydd erbyn tymor nesa. Da ni wedi penderfynu gwneud taith gerdded i godi arian. Gofyn am £10 i oedolion a £5 i blant, neu cyfranwch be da chi eisiau, mae pob ceiniog yn cyfri. Bydd cyfraniad hefyd yn mynd at Grŵp Ystlumod Gwynedd i ddiolch am gael menthyg offer clywed ystlumod ar y noson.

Dweud eich dweud