Sioe y Groeslon – 19.8.23

81fed Arddangosfa Flynyddol y Pentref o Flodau, Llysiau, Celf a Chrefft

gan Llio Elenid
bloda-3-jpeg

Dewch yn llu i Neuadd bentref y Groeslon ar ddydd Sadwrn, 19 o Awst, 2023 i’r sioe flynyddol!

Croeso i drigolion y Groeslon, Carmel, Fron, Llandwrog a rhandir y Groeslon gystadlu. Mae ’na gystadlaethau coginio, llysiau, ffrwythau, blodau a chelf a chrefft, yn ogystal ag adran i’r plant. Gweler y rhaglen isod am yr holl gystadlaethau, a’r rheolau.

Bydd drysau yn agor am 2pm, a mynediad yn £1, ac am ddim i blant. Welwn ni chi yno!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r ysgrifenyddes, Gwyneth Matthews ar 01286 830123.

 

Marchnad Lleu

10:00, 18 Mai (Roedd ‘na ddigon i wneud yn y Farchnad mis Ebrill rhwng y stondinau amrywiol – caws gafr, llysiau, cacennau, crefftau a phlanhigion. Daeth Tyddyn Teg o Fethel i werthu llysiau a rhannu gwybodaeth am eu cynllun Bocsus Llysiau. Mae sawl maint ar gael a gellir archebu a mi fydd yn bosib eu codi o’r Farchnad. Yn y Caffi roedd cyfle i gael brecwast o roliau bacwn neu wy ac yna cinio o chili llysiau, pizza cartref hefo madarch neu lysiau – a blasus oeddent ‘fyd. Gwerthwyd sawl cacen hefo paneidiau o de a choffi. Bwrdd rhannu gwybodaeth mis yma oedd ‘Gofyn i Mi’, o dan ofal Sian sy’n gweithio i fudiad Cymorth i Ferched. Roedd ganddi bosteri, cardiau a chyfle i rannu gwybodaeth ar pa gymorth sydd ar gael i oresgyn trais yn y cartref. Diolch iddi am ddod atom. Daeth criw at eu gilydd i stafell Yr Aelwyd i ddysgu dawnsio Salsa hefo Josie, rhaid oedd symud y traed gan gyfri a chofio pob math o symudiadau (sôn am chwerthin!) Mae sawl un o’r criw am fynd i Glwb Salsa Bangor gan eu bod wedi joiio cymaint. Stondin y Mis oedd prosiect Gardd Nant sydd wedi cychwyn yn Nhalysarn. Cafwyd cyfle i drafod y prosiect tra’n prynu tombola, llyfrau a chydig o waith llaw. Gobeithio eu bod wedi cael lot o bres ar gyfer eu cynlluniau. Yn y neuadd fawr cynhaliwyd cystadleuaeth plannu hadau blodau haul a bydd yn cael ei feirniadu fis Medi. Rhannwyd taflen i ddangos pwysigrwydd y planhigyn i ni. Hefyd yn y neuadd roedd Gwyneth wedi gadael ei bwrdd gwerthu – Bocssebon, i ddangos sut i wneud papur yn defnyddio papur wedi’i falu’n fân, dail a hâd a dwr. Pawb wedi mwynhau ac yn browd iawn o’u papur. Diddorol iawn wir. Diolch i’r stondinwyr am ddod atom ac i bawb am gefnogi eich marchnad leol.m ddim)