
‘Roedd yn ddifyr darllen am fy milltir sgwar, diolch o galon am gael ei weld trwy lygaid gwahanol. Cefais fy magu yn yr hen Ffatri Tryfan a ddoe ddiwetha’ ’roeddwn yn codi ymwybyddiaeth hanesydd bro cyfagos gwybodus iawn o’i fodolaeth felly mae’n amlwg mai cof gwerin lleol iawn sydd yna o’r fro arbennig hon a’i nodweddion er fod gwefan Cof y Cwmwd yn adnodd gwerthfawr gyda diolch i Gareth Heulfryn Williams am ei waith caboledig. Mae’r ardal yn ddifyr ac yn fy atgoffa o’r adegau (rheolaidd) y byddwn yn osgoi gwneud fy ngwaith cartref gan ddewis mynd am dro a gwneud rhyw gymun o waith ar fy nglin yn hwyr gan ffafrio fy hoff feysydd diddordeb/athrawon… Wrth gerdded rhwng Cefn Tryfan a Chynlas mae cyfle i ystyried ymdrech y dyn dall gododd y wal unionsyth ar ochr y lon drol a byddaf yn cofio cerdded i weld nain ar droed Moel Tryfan neu’n dychwelyd o fy ngwers piano yng Nghwm (er gwirioni efo cerddoriaeth ‘doedd fy nwylo ddim yn ufudd a byddai eistedd ar y bont a chwilio am flodau Ceg Nain ac ati ar fy ffordd adref yn ddifyrrach!). Yn ardal Y Bryn mae Afon Llifon yn codi gan gynnig tro arall i’w dilyn i’r mor – tro gwerth chweil ar ddiwrnod braf er fod dipyn o dir preifat sy’n golygu cysgodi yn hytrach na glynu’n gaeth at y glannau. Er mai ardal wledig dawel welir heddiw dylid dychmygu sut oedd yr afon fechan chwim yn darparu grym i bweru gwaith llechi Nant yr Hafod, y ffatri wlan, Felin Forgan, Melin Llwyngwalch a Melin Glynllifon. Tro arall yw i gysgodi’r hen ffordd a gwersyll Rufeinig heibio Felin Forgan a Gilwern Isaf i gyfeiriad sgwar Rhos Isa gan fynd am i fyny ar hyd lonydd cul y pentref am Lein Bryngwyn ac yna i Rostryfan, Bicell a’r Bontnewydd. Maddeuwch y sylwadau hirfaith a digon dryslyd, mae’r erthygl wedi cyffwrdd fy nghalon a hynny cyn mynd i gwblhau gorchwyl drist pnawn ’ma sy’n golygu cau pennod bwysig yn hanes fy nheulu.