Cyfrol newydd Aled

Mae Raffl, Aled Jones Williams yn y siopau rŵan

Ar Goedd
gan Ar Goedd
Screenshot-2023-05-24-at-09.39.50

Gwasg Carreg Gwalch

Mae Raffl, cyfrol o straeon byrion newydd gan yr awdur o Lanwnda ar gael yn eich siop lyfrau leol rŵan!

Yn Hydref 2021 cyhoeddodd Aled gyfrol o straeon byrion Tynnu, ac yn ôl yr awdur mae’r gyfrol hon yn mynd i’r un cyfeiriad.

Tybed pa themâu mae Aled yn eu harchwilio yn Raffl?

“Nid wyf erioed wedi bod yn or hoff o realaeth. Ac o ddydd i ddydd rhowch i mi’n wastad y rafin o flaen y ddynes dda neu’r dyn da. Os oes gennyf bwnc, amwysedd moesol yw hwnnw. Rhywle ymhlith hyn y bydd y storïau newydd hyn yn tindroi.”

Astudiodd Aled yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel, Llandaf. Fe ordeinwyd i’r Eglwys yng Nghymru ym 1979 gan wasanaethu yng Nghonwy, Llanrug a Machynlleth. Tybed yw ei gefndir crefyddol yn bwrw ei gysgod ar y gyfrol?

“Ers tro’n byd rwy’n ymwybodol fod rhai pethau a fu’n bwysig i mi yn dyfod i ben. Ni welaf yng Nghymru unrhyw ddyfodol i Gristnogaeth, er enghraifft. Fy arswyd nad yw’r iaith Gymraeg mor ddiogel ag a fynn rhai.

“Gwynt teg ar ôl ambell beth: byddwn wrth fy modd medru dweud fod cyfalafiaeth ar fin diflannu gyda’r chwaer hyll Torïaeth ar ei hôl. Ond nid felly mae hi.”

Oes ’na elfen o sbïo i’r dyfodol yng nghyfrol Aled?

“Teimlaf fod egin rhyw newydd-deb ar ddod. Nid o angenrheidrwydd yn ddaionus. Wedi’r cyfan, mae’r newid hinsawdd yma’n barod.

“Mae pethau’n chwalu. O’r ymdeimlad yma o chwalfa y daw’r storïau hyn. Bydoedd gwyrgam sydd yma. A pobl sy’n dyllau i gyd heb ruddin.”

Mae Raffl ar werth ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.