Camp i chi!

Cwis bach

angharad tomos
gan angharad tomos
699D57D4-96BE-461B-A009

Pa mor dda ydych chi’n nabod y ffordd o Bantglas i Gaernarfon? Dyna gwestiwn Gwilym Roberts mewn noson o’r Gymdeithas Undebol yn ddiweddar. Y cwestiwn oedd, dan faint o bontydd ewch chi oddi tanynt rhwng y ddau le yna? Mae’n dipyn o gamp. Ar y ffordd yn ol, sawl cylchfan sydd ’na?
Cawsom noson ddifyr yn dyfalu. Un cwestiwn arall – pryd adeiladwyd y ffordd osgoi?

Petai gennych awydd ymuno efo’r Gymdeithas, dewch i Gapel y Groes nos Fawrth, Chwefror 14 am 7pm, bydd noson ddifyr efo Bob Morris. I orffen y tymor bydd swper a dipyn o adloniant yng Nghapel y Groes

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.