Cadw safle Ambiwlans Awyr – am y tro!

Siân a Hywel yn croesawu’r cyhoeddiad

Ar Goedd
gan Ar Goedd
333291069_749523819787531

Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS wedi croesawu’r newyddion y bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i weithredu o Ddinas Dinlle, tan o leiaf 2026.

Gwnaed y cyhoeddiad yn dilyn misoedd o ansicrwydd wrth i elusen Ambiwlans Awyr Cymru ystyried cynlluniau i ganoli ar un safle yng ngogledd ddwyrain Cymru. Roedd gwrthwynebiad chwyrn gan gymunedau gwledig Gwynedd a chanolbarth Cymru i’r bwriad; trefnwyd sawl cyfarfod cyhoeddus, cynhaliwyd dadleuon yn y Senedd, a chasglwyd miloedd o lofnodion ar ddeisebau yn galw am ddiogelu’r gwasanaeth yn Ninas Dinlle.

Ond mae’r elusen bellach wedi cyhoeddi eu bod wedi denu partner newydd, a bod y gwasanaethau wedi eu diogelu tan 2026.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Siân a Hywel:

“Mae’n newyddion gwych.

“Hoffai’r ddau ohonom dalu teyrnged i’r criw diwyd am ymgyrch drefnus ac angerddol.

“Mae’n achos sy’n agos at galonnau nifer yn yr ardal, ac mae’r ymateb llawr gwlad gan drigolion lleol yn dyst i werth y gwasanaeth.

“Mae’n bwysig dathlu bod y gwasanaeth wedi ei ddiogelu tan 2026, ond mae hefyd yn bwysig parhau i ddwyn pwysau ar yr elusen i sicrhau dyfodol y gwasanaeth y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw.

“Fis nesaf bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal, ac rydym yn annog holl drigolion yr ardal i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw.

“Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael dolen pan fydd yr ymgynghoriad yn fyw.”