Beth sy’n digwydd yn Felinwnda?

Dim ymgynghoriad gyda’r gymuned leol

angharad tomos
gan angharad tomos

Gyda’r Ganolfan yn Felinwnda yn gyfforddus lawn, nos Lun, Mawrth 27, roedd teimladau ddigon cryf yn cael eu mynegi ac ambell un mewn dagrau.

Bu cyfarfod rhwng cadeiryddion ysgolion Llandwrog a Felinwnda a Chyngor Gwynedd ar Ionawr 12ed eleni, a dywedwyd gan y Cyngor nad oedd lle i boeni. Fodd bynnag, cwta 6 wythnos yn ddiweddarach, cafwyd cyfarfod brys efo swyddogion y Cyngor yn datgan eu bwriad i argymell cau Ysgol Felinwnda.Erbyn Mawrth 20ed, roedd yr adroddiad yn gyhoeddus ar wefan y Cyngor.

Fel pe na bai hyn yn ddigon o ofid, dyma glywed ar Mawrth 23 fod Ysgol Bontnewydd am gael £12 miliwn i ariannu  ‘ysgol ardal’. Petai cau ysgol Felinwnda yn digwydd, yr argymhelliad yw y byddant yn mynychu Ysgol Bontnewydd yn hytrach nac Ysgol Llandwrog. Yn ol un rhiant, ’mae’r sefyllfa yn drewi.’

Mae Ysgol Felinwnda wedi bod yma o’r blaen. Ym 1987, mynegwyd pryder fod ffigyrau’r ysgol yn isel, cafwyd ymgyrch a chododd niferoedd y disgyblion. Bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, rhaid mynd drwy’r un ofnau drachefn. Yn amlwg, nid yw Cyngor Gwynedd wedi dysgu dim ers yr helynt cau ysgolion bach dros ddegawd yn ol. Yr oedd cyn-bennaeth Ysgol Bronyfoel yn y cyfarfod a mynegodd peth mor boenus oedd mynd drwy’r broses o gau ysgol. O gau Ysgol Felinwnda, does dim trafod beth fyddai yn dod o’r adeilad, a fyddai yn cael ei werthu ar y farchnad agored i ddod yn ail gartref fel sydd wedi digwydd i fwy nag un hen ysgol?

Yr un gafodd y gymeradwyaeth fwyaf oedd cyn-ddisgybl o Ysgol Felinwnda, llanc ifanc a dystiodd i’r addysg ragorol a gafodd yn yr ysgol. Yn amlwg, ar hyn o bryd, mae perthynas dda iawn rhwng Ysgol Felinwnda ac Ysgol Llandwrog. Maent yn rhannu yr un pennaeth, yn dod at ei gilydd i wahanol weithgarwddau, ac maent yn perthyn i’r un Gangen o’r Urdd. Petai Ysgol Felinwnda yn cau, y peth naturiol fyddai i’r plant fynd i Ysgol Llandwrog yn hytrach nac Ysgol Bontnewydd. Ond nid yw swyddogion Cyngor Gwynedd wedi ystyried hyn.

Mae y ddwy gymuned wedi bod yn weithgar yn gymunedol. Yn 2006, llwyddwyd i godi Canolfan Felinwnda sydd wedi profi yn safle buddiol i bob math o weithgarwch. Yn ddiweddar, prynwyd Tafarn Ty’n Llan yn Llandwrog, ac mae’r ddwy gymuned yn gweithio yn galed i gynnal bywyd gwledig. Yn hytrach na hyrwyddo hyn,  mae Cyngor Gwynedd yn cymryd yr opsiwn hawdd, edrych ar ffigyrau, cyfri’r gost ariannol ac awgrymu cau ysgol. Awgrymwyd y dylai’r Cyngor roi arweiniad llawer cryfach sut i gynnal cymdeithasau hyfyw. Nid mater addysgol yn unig yw cau ysgol.

Nodwyd fod Abersoch a Llanaelhaearn wedi cael eu trin yn gwbl wahanol, a bod ymgynghoriad llawn wedi digwydd yn y pentrefi hyn. Oherwydd fod y Cyngor wedi son am gau Ysgol Felinwnda, a bod pryderon am Ysgol Llandwrog, y perygl bellach yw na fydd teuluoedd ifanc eisiau symud i’r ardal, ac na fydd tai ar eu cyfer. Ystyriaeth fawr gan rieni a darpar rieni yw ble mae’r ysgol leol, a symud i’r pentref hwnnw. O feddwl am hyn, mae’r dyfodol yn dywyll i ardal Llanwnda a Llandwrog.
Ar ran y Cylch Meithrin, cafwyd adroddiad calonogol. Bu rhai yn gweithio yn ddyfal i adfer y cylch meithrin, ac mae yn llewyrchus gyda 16 o blant yn barod i gyflenwi ysgolion Llandwrog a Felinwnda.

Codwyd mater cludiant. Rhaid i rieni sy’n mynd a’u plant i Ysgol Bontnewydd dalu am eu cludo yno. O newid y dalgylch fel y dymna’r Cyngor, bydd cludiant yn cael ei dalu i blant fynd o Felinwnda i Bontnewydd. Bydd hyn yn cynyddu’r drafnidiaeth ar lonydd sydd yn gul iawn. Mae oddeutu dau gant o blant yn mynd i Ysgol Bontnewydd, ond bydd lle i 300 wedi codi’r ysgol newydd. Pryder un person yw y byddai yn fler iawn am 3 o’r gloch wrth i gynifer a hynny o blant fynd adref efo’i gilydd.

Yr argraff gafwyd ar ddiwedd y cyfarfod oedd fod awgrym Cyngor Gwynedd wedi codi myrdd o broblemau, ac nad oedd atebion iddynt. Yn fwy na hynny, dydi’r gymuned leol heb gael unrhyw lais yn y mater, a hyn sy’n brifo fwyaf. Arwydd mwyaf gobeithiol y noson oedd y rhieni a ddaeth i mewn efo pram ddwbwl. Yn amlwg, mae yna rieni sydd a diddordeb mewn cadw ysgol Felinwnda ar agor.

Trafodir y mater ar 28 Mawrth gan y Cabinet. Mentrodd Beca Brown, Arweinydd y Portffolio Addysg i’r cyfarfod gyda un neu ddau swyddog arall o’r Cabinet, a dywedodd ar goedd ei bod wedi dod yno i wrando ar y dadleuon. Cri y cyfarfod oedd ar i’r Cabinet beidio gweithredu ar y rhybudd i gau Ysgol Felinwnda ar ddydd Mawrth (yfory). Dylid yn hytrach roi amser i gynnal trafodaethau agored gyda’r cymunedau gan edrych yn fwy holistaidd ar y ddarpariaeth addysgol yn Llanwnda a Llandwrog o ran y dyfodol.

Yn olaf, gwnaed y pwynt fod y ddwy ardal yn cael eu cynrychioli gan gynghorwyr Plaid Cymru a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac a fynegodd eu pryder. Nodir ym Maniffesto Gwledig Plaid Cymru addewid mai nhw yw’r unig blaid fydd yn ’diogelu, amddiffyn a hyrwyddo’r Gymru wledig’. Yn bendant, mae mwy i ddod o’r ddrama hon, a chawn weld beth fydd y bennod nesaf. Ond nid mater o Ysgol Felinwnda yn cael ei chau ai peidio yw’r mater hwn. Mae yna oblygiadau pellgyrhaeddol i bob cymuned wledig yng Ngwynedd.