Gwasanaeth Carolau Pentref Rhostryfan

Trefniadau’r Gwasanaeth Carolau

gan Siwan Thomas

Gan nad oes modd cael Gwasanaeth Carolau yng nghapel Horeb, Rhostryfan eto eleni, y bwriad ydy i gynnal y Gwasanaeth yn y maes parcio, gyda Seindorf Arian Rhostryfan yn cyfeilio.

Bydd y Gwasanaeth am 5.30pm, nos Sul 19eg o Ragfyr, felly lapiwch yn gynnes a dowch a fflach lamp hefo chi. Bydd gofyn i chi hefyd gadw pellter cymdeithasol.

Does dim angen dod a llyfr emynau gan y bydd taflenni carolau yn cael eu dosbarthu.

Gwneir casgliad tuag ar Fanc Bwyd Arfon.

Ni fydd modd parcio ym maes parcio’r capel.

Dewch yn llu, bydd croeso cynnes i bawb.