Buddugol yn y Her Ffilm Fer

Eto…

Yr Orsaf
gan Yr Orsaf

Criw o Ddyffryn Nantlle oedd yn fuddugol yn yr Her Ffilm Fer gynhaliwyd gan Hansh ac S4C eleni. Yr her oedd creu ffilm mewn 48 awr, ac roedd yn rhaid i’r ffilm fod dan 5 munud o hyd.

​Ffilmiodd Trac 42 o Benygroes y ffilm ‘Eto’ yn adeilad Cymru Fydd drws nesaf i’r Orsaf, ac mae’n ffilm ddu a gwyn efo trobwynt ynddi. Yr actor yw Osian Roberts, roedd Osian Evans yn gyfrifol am y gerddoriaeth a Hedydd Ioan yn cyfarwyddo. Ddiwedd Hydref, cyhoeddwyd mai ‘Eto’ oedd yn fuddugol.

​Mae modd gweld y ffilm ar sianel youtube Hansh.