UNITE yn cefnogi gweithwyr ffatri Penygroes

Cyfarfod undeb UNITE ym Mhenygroes

Hedydd Ioan
gan Hedydd Ioan

Ar Orffennaf 15ed, cynhaliodd yr undeb UNITE gyfarfod dros ffordd i’r Co-op ym Mhenygroes i gefnogi gweithwyr Norwood. Y siaradwyr, yn ogystal â rhai yr undeb oedd Judith Humphreys, Sian Gwenllian AS a Hywel Williams AS.

 

Dywedwyd fod y gweithwyr wedi cael eu trin yn warthus gan y cwmni, yn cael cyn lleied o rybudd fod y ffatri yn cau, ac yn cael cynnig y tâl di-swyddo lleiaf posib. Gweithwyd yn galed i lunio cynllun newydd fyddai wedi achub rhai o’r swyddi, ond ni ddangosodd Norwood ddiddordeb. Cynigwyd arian iddynt gan Senedd Cymru, ond nid oedd dim yn tycio. Mae’r swyddi wedi eu symud o Benygroes i Telford.

 

Fe’n hatgoffwyd mai’r rheswm i ffatri agor ym Mhenygroes oedd ateb y galw ddiwedd y 50au pan gaeodd y chwareli. Mae gweithwyr wedi bod yn ffyddlon iawn i’r ffatri, ac mae’n ddiweddglo trist. Gobeithio y bydd modd gwneud rhywbeth i ddenu gwaith newydd i’r dyffryn.

 

Pwysleisiodd Hywel Williams ar ddiwedd y cyfarfod fod angen trefn newydd yn lle’r Credid Cynhwysol. Mae llawer o ddiffygion yn y drefn bresennol, ac mae’r trefniant ‘furlough’ wedi dangos fod modd newid pethau pan fo raid.

Geiriau gan Angharad Tomos