Gan fod strwythur newydd i bêl-droed Cymru mae’r clwb angen datblygu’r cae er mwyn cyrraedd meini prawf yr FAW.
Mae’n mynd i fod yn dipyn o gamp i ni allu gwneud hyn oherwydd costau.
Mae holl dimau’r clwb am gymryd rhan mewn sialens er mwyn ceisio codi £3,000 gan redeg, cerdded neu feicio 3,000 milltir mewn 6 wythnos,
Bydd pawb sy’n cerdded, rhedeg neu’n beicio yn cofnodi’r daith gydag app fel Strava ac yn anfon lluniau a data ymlaen er mwyn i ni gofnodi’r cyfanswm yn ddyddiol / wythnosol am y 6 wythnos. Bydd fideos o’r sialens yn mynd i fyny ar ein gwefannau cymdeithasol yn rheolaidd.
Cadwch lygad allan am redwyr, cerddwyr a beicwyr dros yr wythnosau nesaf. Os ydach chi am gyfrannu’n ariannol dyma’r linc i ‘PayPal Pool’ y sialens.
https://paypal.me/pools/c/8pN70u8qU0
Diolch am eich cefnogaeth.