Anrhegion Nadolig Disgyblion Dyffryn Nantlle

Disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle yn cyflwyno anrhegion unigryw i breswylwyr Plas Gwilym

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Dros y tymor diwethaf fel rhan o gynllun Agored Cymru gan y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghyngor Gwynedd mae rhai o ddisgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Dyffryn Nantlle wedi bod wrthi’n brysur yn creu anrhegion unigryw ar gyfer preswylwyr Plas Gwilym, Penygroes.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi gweithio mewn partneriaeth â Phontio’r Cenedlaethau, Cyngor Gwynedd, Treftadaeth Disylw, y Cynghorydd Judith Humphreys ond hefyd wedi derbyn nawdd o £250 gan yr Heddlu er mwyn cefnogi’r prosiect.

Yn dilyn hanner tymor Hydref mae’r disgyblion wedi bod yn brysur yn cynllunio ac yn creu anrhegion unigryw ac arbennig ar gyfer y preswylwyr. Bu i’r disgyblion gwblhau fframiau pren gyda chynnwys unigryw ymhob un (gweler y llun o rai ohonynt) a hefyd mat diod o lechen gan ddylunio cynllun ar bob un a’i rhoi ar y llechen yn defnyddio peiriant laser cutter. Roedd y llechi wedi dod gan gwmni lleol, Inigo Jones, yn ogystal. Roedd y fframiau a’r matiau diod yn cynnwys lluniau a cherddi lleol i ardal Dyffryn Nantlle. Diolch i bob aelod o staff yn yr ysgol am yr holl gefnogaeth gyda’r prosiect.

Roedd y bagiau Nadolig hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan Co-op, Trigonos a Lle-chi!

Cafodd y bagiau eu cyflwyno ar y 15fed o Ragfyr i gartref Plas Gwilym a bydd y preswylwyr yn eu derbyn wedi cyfnod cwarantîn. Dywedodd Sharron, Rheolwr Cynorthwyol Cartref Plas Gwilym “Diolch o galon i blant Dyffryn Nantlle am feddwl amdanynt, trigolion Plas Gwilym yn hapus a ddiolchgar iawn. Edrych mlaen i agor y bagia. Diolch o galon, prosiect gwych”

Bwriad Pontio’r Cenedlaethau, Cyngor Gwynedd eleni ydi darparu anrhegion, cardiau a llythyrau i unigolion hŷn ar draws Gwynedd gan blant a phobl ifanc er mwyn rhoi gwên ar wynebau yn ystod cyfnod heriol.
Yn ôl Mirain Llwyd, Cydlynydd y Prosiect “mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i sawl unigolyn felly dyma un o’r prosiectau Nadolig lle mae modd rhoi gwên ar wyneb ambell berson a pontio’r cenedlaethau

Cewch ddysgu mwy am y prosiect ar Heno, S4C am 7yh heno (16/12).