Hawl i Fyw Adra

Rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn denu torf i sefyll yn erbyn y nifer o dai hâf yng Nghymru. 

Hedydd Ioan
gan Hedydd Ioan
IMG_4009

Heddiw yn Llanberis fe ddaeth criw at ei gilydd i ddatgan eu anfodlondeb efo’r nifer o dai o amgylch Cymru sydd yn ‘ail-dai’ a’r diffyg tai i bobl leol. Cafodd raliau eu cynnal yn Aberaeron a Chaerfyrddin hefyd o dan yr ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ gan Gymdeithas yr Iaith.

Roedd yna nifer o siaradwyr yn annerch y dorf hefyd ac yn galw ar lywodraeth Cymru i wneud mwy i reoli’r sefyllfa. Mae yna bobl wedi bod yn lleisio ei barn am dai haf ers dros hanner canrif erbyn hyn yng Nghymru, gyda’r gân ‘Tŷ Haf’ gan Edward H Dafis yn dal teimlad yr ymgyrch yn y 70au. Eleni, yn sgil y pandemic, mae chwyddwydr wedi dod ar y nifer o dai yng Nghymru sydd yn wag yn ystod cyfnodau clo a fysa’n gallu cael ei defnyddio gan bobl leol.

“Mae yna gamau gallwn ni gymeryd ond dyw’r llywodraeth ddim yn gweithredu arnyn nhw” 

Mabon ap Gwynfor

Mae deiseb gan yr ymgyrch wedi casglu dros 5,000 o lofnodion, sydd yn golygu ei fod wedi pasio’r trothwy i gael ei drafod yn y senedd.