Eisteddfod Llanllyfni 2020

Canlyniadau’r Eisteddfod.

gan Morfudd Elin

Cynhaliwyd sesiwn agored yr eisteddfod nos Sadwrn 22 Chwefror a chawsom eisteddfod lwyddiannus a safonol iawn.  Y beirniad cerdd oedd Nia Efans, Talwrn, Ynys Môn, y beirniad llefaru oedd Bethan Lloyd Dobson Panglas a’r Prifardd Rhys Iorwerth, Caernarfon oedd beiriniad y cynnyrch llenyddol. Angharad Wyn Jones, Dolydd fu’n brysur yn cyfeilio i bawb. Yn arwain ar y noson oedd Alma Jones Davies, O P Huws ac Alun Ffred Jones.

Enillydd y Gadair agored oedd Richard Llwyd Jones, Bethel, Caernarfon am awdl ar y testun Afon. Enillydd Cadair yr ifanc oedd Siwan Prys Owen Llecheiddior Ganol, Bryncir. Am ei gwaith, dywedodd y beirniad ei fod ‘yn gyforiog o linellau cofiadwy a phethau bach, sylwgar iawn sy’n dangos bod yma sgwennwr o’r iawn ryw’.

Y perfformiwr mwyaf addawol ym marn y beirniaid oedd Tegid Goodman Jones o Gaerwys am ei berfformiadau safonol amrywiol ac yn ennill £50 wedi’i roi gan garej Arwyn Penygroes.

 

 

Dyma’r canlyniadau:

Unawd dan 15 oed: 1af: Leisa Mair Lloyd-Edwards Y Groeslon 2il: Martha Evans Llanllyfni a Gweno Owen Penygroes 3ydd: Gwenllian Perkins Llanllyfni a Beca Morris Bethel

 

Unawd 15 – 21:  1af: Tegid Goodman Jones Caerwys a Sion Dafydd Edwards Llanrwst
Deuawd: 1af: Lois a Cadi Glanrafon Corwen 2il: Anni Evans a Tesni Jones Penygroes

 

Prif Unawd: 1af: Tegid Goodman Jones Caerwys

 

Unawd Gymraeg:1af: Tegid Goodman Jones Caerwys 2il: Sion Dafydd Edwards Llanrwst 3ydd: Beca Fflur Morris Bethel

 

Unawd Cerdd Dant: 1af: Enlli Pugh Jones, Penygroes 2il: Fflur Davies Rhostryfan a Sion Dafydd Edwards Llanrwst 3ydd: Erin Llwyd Glanrafon Corwen

 

Cân Werin:  1af: Enlli Pugh Jones Penygroes 2il: Robert John Jones Biwmares 3ydd: Sion Dafydd Edwards Llanrwst

 

Cân allan o Sioe Gerdd:  1af: Fflur Davies Rhostryfan 2il: Enlli Pugh Jones Penygroes 3ydd: Tegid Goodman Jones Caerwys 4ydd: Sion Dafydd Edwards Llanrwst 5ed: Beca Fflur Morris Bethel, Caernarfon.

 

Canu Emyn dros 50:  1af:  Morwenna Roberts Caernarfon

 

Parti Canu hyd at 12 mewn nifer: 1af: Parti Llan, Llanllyfni

 

Unawd Offerynnol: 1af: Huw Evans, Saron, Caernarfon 2il: Beca Morris Bethel ac Anni Evans Llanllyfni 3ydd: Gwilym Evans Saron, Caernarfon

 

Ensemble Offernnol: 1af: Genod Lleu, Penygroes

 

Cyfansoddi darn o gerddoriaeth: 1af: Erin Aled, Llanuwchllyn

 

 

LLEFARU

Dan 15 oed: 1af: Cadi Fflur Glanrafon, Corwen 2il: Elin Jên Griffith Carmel 3ydd: Elan Williams Talysarn a Gwenllian Perkins Llanllyfni
15 – 21 oed:  1af:  Sion Dafydd Edwards Llanrwst

 

Y Prif Adroddiad: 1af: Rhys Jones Corwen

 

Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: perfformio darn digri 1af: Rhys Jones Corwen

 

LLENYDDIAETH

Rhyddiaith Bl. 7, 8 a 9:  1af: Efa Hodge Ysgol Botwnnog 2il: Elan Owen Ysgol Botwnnog a Tesni Jones Ysgol Dyffryn Nantlle

 

Rhyddiaith Bl. 10 – 13: 1af Lowri Elen Bebb Caernarfon 2il: Gwenno Robinson Abertawe

 

Rhyddiaith dan 25 oed: 1af: Siwan Prys Owen Bryncir 2il: Erin Aled, Llanuwchllyn

 

Barddoniaeth Bl. 7, 8 a 9:  1af: Enlli Thompson Ysgol Dyffryn Nantlle 2il: Anni Evans Ysgol Dyffryn Nantlle 3ydd: Elin Jên Ysgol Dyffryn Nantlle

 

Barddoniaeth Bl. 10 – 13:  1af:  Gwenno Robinson Porth Einon Abertawe 2il: Aron Evans Ysgol Dyffryn Nantlle

 

Englyn: 1af ac 2il: John Ffrancon Griffith Abergele

 

Englyn Crafog: 1af: Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd  2il: John Owen Jones Padog Betws y Coed

 

Gorffen Limrig:  1af: Megan Richards Aberaeron

 

Stori Fer:  1af: Siân Teifi, Llanfaglan Caernarfon 2il: Megan Richards Aberaeron

 

Cerdd gaeth neu rydd: 1af: Richard Llwyd Jones Bethel Caernarfon 2il:  Carys Briddon Tre’r Ddôl Ceredigion