Mae’n FYW! Ond beth yw dyffrynnantlle360?

Beth yw dyffrynnantlle360? Pwy fydd yn ei defnyddio? A pha fathau o straeon fydd yn ymddangos? Dyma’r ateb i dy gwestiynau i gyd…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae gwefan dyffrynnantlle360.cymru newydd fynd yn FYW!

Felly beth yw’r wefan? Pwy fydd yn ei defnyddio? A pha fathau o straeon fydd yn ymddangos?

Dyma’r ateb i dy gwestiynau i gyd…

❓Beth yw dyffrynnantlle360?

➡️ Gwasanaeth digidol newydd, sy’n lle i bobol y fro osod y straeon sy’n bwysig i chi ar-lein. Ry’n ni wrthi’n datblygu’r wefan gyda chi, felly bydd pethau newydd yn ymddangos yn gyson.

❓Felly ni, y bobol leol, fydd yn creu’r straeon?

➡️ Ia. Bydd modd i bawb sy’n byw yn y fro greu cyfrif (dod yn ‘frodor‘) a chyhoeddi eitemau am bynciau amrywiol. Chi fel pobol leol sy’n gwybod orau be sy’n digwydd yn lleol. Oes pwnc llosg yn y pentre yn ddiweddar? Oes llwyddiant lleol sy’n werth ei ddathlu? Oes digwyddiad i’w hysbysebu? Chi sy’n gwybod – a chi fydd yn torri’r stori.

❓A fydd straeon am fy nghlwb i ar y wefan?

➡️ Bydd – os wyt ti isho! Mae’n hawdd i chdi gyfrannu adroddiad, lluniau, poster a fideos am dy glwb neu gymdeithas ar y wefan. Gelli hyd yn oed addasu adroddiad neu bwt byr rwyt ti wedi’i greu eisoes, i sicrhau bod dy glwb di’n cael ei gynnwys yn rhan o’r clytwaith o straeon sy’n rhoi darlun o’r fro.

❓Oes angen i mi fod yn gallu sgwennu’n dda?

➡️ Nac oes. Does dim rhaid sgwennu o gwbl, os nag wyt ti am! Galli greu fideos, clipiau sain neu oriel luniau. Mae’r we yn croesawu pob math o gyfryngau, nid jest testun! Os wyt ti am sgwennu pwt, defnyddia’r Gymraeg sy gen ti a phaid â bod ofn, ac mae Cysill i helpu gyda’r sillafu hefyd. Ry’n ni’n croesawu tafodiaith ar dyffrynnantlle360!

❓Fydd rhywun yn checio fy stori cyn cyhoeddi?

➡️ Mae fyny i chdi. Gelli di gyhoeddi dy waith yn syth ar dyffrynnantlle360, neu mae croeso i ti greu drafft a gallwn ei olygu a’i checio cyn ei gyhoeddi i’r byd.

❓Dwi ddim yn byw yn Nyffryn Nantlle ond dwi am gael gwefan fro!

➡️ Paid â phoeni, efallai y gallwn ni helpu! Prosiect peilot gan Gwmni Golwg – o’r enw Bro360 – sydd wedi datblygu’r wefan yma gyda’r gymuned leol. Byddwn yn treulio’r ddwy flynedd a hanner nesa’n cydweithio â bröydd Dyffryn Ogwen, gogledd Ceredigion, Caernarfon, ardal Wyddfa a Thregaron i weld a hoffen nhw ddatblygu gwasanaeth digidol tebyg, felly cadwa lygad ar gyfrifon cymdeithasol Bro360 i weld y datblygiadau fel bod modd i ti gyfrannu! Os wyt ti’n byw y tu allan i’r ardaloedd hynny, cysyllta â Lowri ar post@bro360.cymru.

❓Iawn… sut galla i gyfrannu heddiw?!

➡️ Trwy fynd i 360.cymru a phwyso cofrestru, a dilyn y ddolen yn yr ebost i osod cyfrinair (gwylia nad yw wedi mynd i’r ffolder rwtsh!). Wedyn, gelli ddilyn y camau yma:

Un peth bach arall…

➡️ Os wyt ti’n hoffi unrhyw stori rwyt ti’n ei darllen ar dy wefan fro, cofia bwyso’r botwm i ddiolch amdani!