Am dro i Lyn y Gadair

Llwybr Gwyrfai ar nos Lun braf o Orffennaf

gan Llio Elenid

Llwybr sy’n 4 milltir a hanner, neu 7.2 km, yn ei gyfanrwydd ydi Llwybr Gwyrfai, sy’n ochri efo Llyn y Gadair, ac yn mynd yr holl ffordd i Feddgelert. Ond 3.5 km, bach mwy na 2 filltir oedd ein taith ni ar nos Lun yr 8fed o Orffennaf.

Mae rhanfwyaf o’r llwybr yn troedio’r un daith â Rheilffordd Ucheldir Cymru  – y daith trên honno sy’n mynd o Gaernarfon i Borthmadog ac ar hyd golygfeydd gorau Eryri. Yn ôl prosiect ‘Roman Roads in north-west Wales’ gan Ymddiriedolaeth Archaeloeg Gwynedd/Heneb yn 2007, mae hi’n cael ei ragfynegi bod rhan o’r Ffordd Rufeinig o Segontium i Tomen y Mur wedi troedio ffordd hyn hefyd.[1],[2]

Wedi agor yn 2011, mae Llwybr Gwyrfai yn boblogaidd iawn efo cerddwyr, beicwyr a marchogwyr, ac yn addas i deuluoedd a phlant. Yn ogystal mae modd defnyddio Tramper ar y llwybr yma – sgwters symudedd sydd wedi’i dylunio i’w defnyddio ar dirwedd anwastad. Mae modd llogi Trampers o’r fath, a derbyn gwybodaeth am lwybrau Tramper gyfeillgar eraill, drwy wefan Parc Cenedlaethol Eryri –

Llogi Tramper | Snowdonia National Park (llyw.cymru)

I gychwyn ar ein taith, croeswch y lôn yn ofalus o faes parcio rheilffordd Rhyd-ddu, ac ewch ymlaen drwy’r giât haearn cywrain. Mae llwybr amlwg iawn i’w ddilyn yr holl ffordd o hynny ymlaen.

Yn syth o’ch blaenau mae cefn Crib Nantlle yn sefyll – Y Garn, Mynydd Drws-y-Coed a Thrum y Ddysgl. I’r dde i chi mae Mynydd Mawr/Grug/Eliffant a Moel Eilio a’r Cynghorion, ac i’r chwaith mae triawd Moel Lefn, Moel Ogof a Moel Hebog.

Cwm Marchnad yw’r enw ar y darn o dir rhwng ochr Mynydd Drws-y-Coed a hyd at Lyn y Gadair yn Rhyd-ddu. Fel mae’r enw yn ei awgrymu roedd marchnad yn cael ei gynnal yma ers talwm, er nad oes neb yn sicr pryd ‘erstalwm’ oedd hynny. Mae rhai yn credu mai rhywbryd ar ôl 1282 yr oedd y farchnad yn cael ei gynnal, pan mai dim ond Saeson oedd yn byw tu fewn i furiau tref Caernarfon, a chafodd y Cymry eu perswadio i gynnal ffeiriau eu hunain er mwyn cyfnewid nwyddau, ac er mwyn i’r Saeson newydd i’r ardal gael prynu bwyd a gwartheg. Mae sôn hefyd bod hon yn farchnad y bu i Owain Glyndŵr ymosod arni –

“Byddai y Cymry yn dod a’i hanifeiliaid o Eifionydd i’r lle yma a Saeson yn gyrru rhai yno yw prynu, yna trefnwyd i gynnal ffeiriau y tu allan i furiau’r dref ac wedi hynny y tu fewn yw muriau ac ar un o ddyddiau y ffeiriau yr ymosododd Owen Glyndŵr ar y Castell.”[3]

Uwchben Cwm Marchnad, saif Mynydd y Garn, ble mae golygfeydd gwych o Ddyffryn Nantlle, Sir Fôn, yr Wyddfa, Ardudwy, Ffestiniog a Llŷn ar y copa. Cafodd ei enwi ar ôl y ddau bentwr anferth o gerrig a ddarganfuwyd ar ei gopa. Yno, ambell ganrif yn ôl, daethpwyd o hyd i gistfaen carreg wrth gloddio a oedd yn profi bod copa’r Garn, un tro, yn llecyn gwylio i wŷr a milwyr Eryri.[4]

Newch chi ddim methu Llyn y Gadair chwaith, sydd yn ddistaw ac yn llonydd ar eich chwith drwy gydol cychwyn y daith.

Ardal o dir isel yn ffurfio pant ydi’r tirwedd lle mae Llyn y Gadair. Yn ôl Cof y Cwmwd, “Craig fawr ar ffurf cadair sy’n codi o’r llyn ar ochr yr ogledd-orllewinol iddo a roddodd ei enw iddo”, a da chi’n gweld hynny ar fap OS fel yn y lluniau isod.

(©2024 Ordnance Survey Limited / ©Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

Mae’r llyn wedi cael ei hanfarwoli gan y gerdd gan y bardd T. H. Parry-Williams, oedd yn byw yn Nhŷ’r Ysgol gerllaw yn Rhyd-ddu, a dyma hi’r soned yn ei chyfanrwydd i chi –

Ni wêl y teithiwr talog mono bron

wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.

Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon

nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad

pysgotwr unig, sydd yn chwipio’r dŵr

a rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,

fel adyn ar gyfeiliorn, neu fel gŵr

ar ddyfroedd hunlle’n methu cyrraedd glan.

Ond mae rhyw ddewin â dieflig hud

yn gwneuthur gweld ei wyneb i mi’n nef,

er nad oes dim gogoniant yn ei bryd,

na godidowgrwydd ar ei lannau ef,

– dim byd ond mawnog a’i boncyffion brau,

dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau.

Er, teg dweud ella bod geiriau T. H. ddim cweit mor wir ddim mwy, ers agor Llwybr Gwyrfai – un o lwybrau mwyaf poblogaidd yn Eryri bellach. Mae’r olygfa o Lyn y Gadair drwy’r goedwig ar ddiwrnod braf yn wefreiddiol ac wedi i’w weld ar aml i instagram a tiktok ‘teithwyr talog’.

Mae Afon Gwyrfai (sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig) yn llifo drwy Llyn y Gadair, ac mae’r llyn a’r afon yn cynnal bywyd gwyllt a phlanhigion dŵr o bwys bioamrywiaeth bwysig iawn yma. Enghreifftiau o hyn yw Pysgodyn Torgoch yr Arctig (‘torgoch’ yn llythrennol yn golygu ‘bol coch’ fel sydd gan y pysgodyn), planhigyn Llyriad-y-dŵr arnofiol, dyfrgwn ac eogiaid. Mae ’na stori llên gwerin am gred ym modolaeth Llwybr y Torgochiaid yn yr ardal yma sef llwybr tanddaearol rhwng llynnoedd Padarn a Pheris a Llyn Cwellyn; hyn sy’n egluro eu presenoldeb yn y llynnoedd yma. Astudiodd Humphrey Owen eu rhywogaeth yn 1809 a oedd i bob rheswm yn cadarnhau fod y pysgod yn ymfudo rhwng y llynnoedd.[5] Ers ryw ddegawd bellach mae ymdrech go lew yn cael ei wneud i achub y pysgod cynhanesyddol yma, yn sgil eu dirywiad, ac yn bennaf yn sgil iddynt bron â diflannu’n gyfan gwbl o Llyn Padarn, Llanberis. Bellach mae Prosiect Torgoch yn fenter sy’n codi ymwybyddiaeth o boblogaethau a sefyllfa Pysgod Torgoch Eryri cyn ei bod hi’n rhy hwyr.[6]

Ger fan hyn mae adfeilion dwy chwarel. Ar fap OS 1900 mae yma Chwarel Llyn y Gadair a Chwarel y Gadair Wyllt. Roedd Chwarel Lechi’r Gadair Wyllt yn weithredol rhwng 1885 i 1920. Roedd Llyn y Gadair yn cynnal y rheilffordd oedd yn cario’r llechi o’r chwareli hyn, a lluchiwyd gwastraff llechi i’r llyn am gyfnod hefyd. Rhannau o’r hen drac hwnnw ydi’r sarn gul byddwch yn ei cherdded ar lwybr Gwyrfai wrth groesi’r llyn, cyn cyrraedd adfeilion y chwareli. Yn ôl Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd/Heneb cafodd chwarel lechi Llyn y Gadair ei gymryd drosodd gan yr Undeb yn ystod Streic y Penrhyn, ond bu’n aflwyddiannus.[7]

Ar y mapiau uchod hefyd gwelir yr enw ‘Cerig Henon’ ar fap OS heddiw, ac mae’n ymddangos fel ‘Cerig Heuon’ ar fap OS 1900. Tybir bod yr enw yn golygu ‘Carreg Haul’.[8] Mae gan D. E. Jenkins gofnod yn nodi bod arfer bod hen dy o’r enw ‘Cryg Huon’ yn yr ardal yn ei lyfr o 1899, ‘Beddgelert: its Facts, Fairies & Folklore’. Roedd y bwthyn hwn yn ar lan Llyn y Gadair ger Cwm Marchnad ar yr ochr orllewinol ar ddarn o dir yn perthyn i Hafod Ruffydd. Mae’r olion yn dal i fod yno.

Yn ‘Prosiect dendrocronoleg Eryri ar Hafod Ruffydd Uchaf, Beddgelert’ caiff ei nod mai’r person cyntaf y credir oedd yn byw yn ‘Cerig Heuon’ oedd John Jones yn 1805. Yna Jane Griffith yn 1811 – roedd hi’n derbyn £2 7s 0d gan Oruchwyliwr Hafod Ryffudd Uchaf. Yn dilyn hynny, Evan Owen, meddwyn o deulu Clogwyn y Gwin – roedd ganddo ‘clubfoot’ ac yn derbyn cefnogaeth y plwyf. Wedyn, Robert Jones, tlotyn hefyd. Credir mai Thomas Jones oedd yr olaf i fyw yno, oedd yn dywysydd ac yn deiliwr.[9]

Dyma gofnod o gyfrifiad 1841 i’r bwthyn –

“1841 census: Cerrig Ceuon (1)

Elizabeth Owens, 50, pauper

John Owens, 11

Elizabeth Owens, 8

1841 census: Cerrig Ceuon (2)

John Evans, 35 Agricultural Labourer

Catherine Evans, 30

Mary Evans, 6

Richard Evans, 2

Catherine Evans, 1”

Doedd dim cofnod i’r bwthyn yng nghyfrifiad 1851.[10]

Mae ‘na hefyd gofnod o dai crynion i’r gorllewin o Chwarel Llyn y Gadair, o bosib o’r cyfnod Brythonig-Rufeinig, a chofnod o blatfform tŷ canoloesol.[11] Cymerwch olwg yma ar Archwilio.org.uk i weld pa gofnod arall o’r oes a fu sydd o amgylch yr ardal.

O ran chwedlau, dwi wedi dod ar draws dwy sy’n perthyn i’r ardal yma.

Y gyntaf am fwystfil ffiaidd ond euraidd, Aurwrychyn, a oedd yn byw tu draw i Lyn y Gadair yn Rhyd-ddu. Fe gafodd ei hela ai’i ddal ger Baladeulyn, ble saif pentref Nantlle heddiw, gan helwyr a chŵn yr ardal. Yno y rhoddodd llef, y sgrech fwyaf annaearol a fu erioed, a dyna yn ôl un stori ydi tarddiad yr enw Nantlle. Nid Nant Lleu, ond Nant-y-Llef.[12]

“Wrth odrau Mynydd Drws-y-coed, ar y tu dwyreiniol iddo, y mae llyn helaeth a elwir Llyn y Gadair, ac a elwir gan rai Llyn y pum carreg, am fod y nifer honno o feini, neu ddarnau o greigiau yn y golwg. Ar du dwyreiniol y llyn hwn y mae bryn bychan, ac o’r bryn yma darfu i helgwn rhyw fonheddwr gyfodi rhyw fwystfil rhyfedd a dieithr, a hynod o brydferth. Y bwystfil hwn, medd y traddodiad a orchuddir â chydynyau o flew euraidd, y rhai a ymddysgleirient yn llachar ym mhelydrayr haul am hynny galwyd ef yn Aurwrychyn. Y cŵn a’i hymlidasant trwy Ddrws y coed i lawr hyd at Baladeulyn, lle y daliasant ef; ac fel yr oeddynt yn ei ddal, y bwystfil a roddes y fath lef dorcalonnus ac egnïol, nes oedd y creigiau o gylch yn diaspedain gan ei lef. Y llef hon a roddes enw i’r nant, a galwyd ef o hynny allan yn Nant-y-Llef.”[13]

Mae’r ail yn gysylltiedig efo’r tylwyth teg. Roedd mab ffarm Y Ffridd yn cerdded adra o Ffair Beddgelert dros y gors un noson, ac fe ddaeth ar draws y tylwyth teg yn dawnsio ac yn neidio ar y grug yn llon, a’u gwylio am oriau mewn llesmair. Yr oedd wedi llwyr ymlâdd, a bu i gerddoriaeth y tylwyth teg ei suo i gysgu. Wrth gysgu, cafodd ei rwymo â rhaffau anweledig, “blanced ysgafn o wawn mân”, gan y tylwyth teg, fel nad oedd neb yn gallu ei weld. Cysgodd o dan y rhaffau hud hynny’r noson honno a thrannoeth, ac ofer fu ymdrechion ei deulu a’i gyfeillion i ddod o hyd iddo. Rhyddhawyd ef gan y tylwyth teg y noson wedyn, a bu ar goll am oriau, cyn sylweddoli yn y diwedd lle’r oedd o, a hynny ddim yn bell o adra.

“Tra roedd yn cysgu fel hyn, aeth y llu cyfan ato a’i glymu mor dyn nas gallai symud gewyn. Yna gorchuddiasant ef â gwe denau fel nas gellid ei weld a gwaeddai am gymorth … //… y noson ganlynol, tua’r adeg y daliasant ef, aeth y Tylwyth Teg yn ôl a’i ryddhau a deffrodd yntau ar ôl cysgu am ddiwrnod a noson, Ar ôl deffro ‘doedd ganddo ‘run syniad lle’r oedd a chrwydrodd wysg ei drwyn hyd ochrau’r Gadair a’r Gors Fawr nes caniad y ceiliog pan ddarganfu’n sydyn lle’r oedd, a’i fod o fewn chwarter milltir i’w gartref.”[14]

Yn sgil y stori hon, dywedwyd bod pobl, wrth ddisgyn i gysgu, yn rhaffau’r tylwyth teg.[15]

Gadewch fi wybod os oes gennych chi straeon gwerin neu fwy o hanesion a chwedlau am yr ardal yma!

Mae dilyn y llwybr yn hawdd iawn am weddill y daith, mae hi’n hynod o amlwg. Rhaid cerdded dros y bont, (neu gerdded drwy’r afon, fyny i chi!), ac yna dachi’n mewn i goedwig Beddgelert – sy’n goedwig goniffer a llydanddail.

Mae ‘na dipyn o lwybrau cyhoeddus yn y goedwig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn arwyddion Lôn Gwyrfai i fynd y ffordd iawn. Buan iawn y byddwch chi’n croesi’r tracs trên (byddwch yn ofalus wrth eu croesi) ac yn dŵad allan o’r goedwig ym Mhont Cae’r Gors. Dyma oedd diwedd ein taith ni gyda Alex a’r mini bus yn ein disgwyl i fynd â ni yn ôl adra. Mae maes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru ychydig i lawr y trac lle fedrwch barcio eich car hefyd.

Os sa chi’n licio gwneud y daith eich hunain, mae hi fan hyn ar Google Maps –

Taith Llyn y Gadair

Os dydi hyn ddim yn ddigon o daith i chi fedrwch chi bob tro gario ymlaen ar hyd Lôn Gwyrfai i Feddgelert, ac unai cerdded yn ôl hefyd neu ddal bws yn ôl i Ryd-ddu (cofiwch checio’r amserlenni cyn mynd!). Mae posib cerdded cylchdro yma hefyd yn ôl i’r maes parcio. Bydd angen i chi groesi’r lôn yn Pont Cae Gors, ymuno â’r llwybr cerdded pwrpasol yno, cerdded i fyny pasio Ffridd Uchaf cyn ymuno â Llwybr Rhyd-ddu i’r Wyddfa, ond i beidio â mynd drwy’r giât am yr Wyddfa, ond troi yn ôl i lawr am y maes parcio.

Dyma daflen hynod o ddefnyddiol gan y Parc Cenedlaethol hefyd am daith Lôn Gwyrfai –

Llwybr Hyrwyddedig APCE – Lôn Gwyrfai, Rhyd Ddu (llyw.cymru)

Diolch o galon i bawb a ddaeth am dro efo ni, diolch i Alex am ddreifio’r bws mini – a diolch am y tywydd ffafriol dros ben ar nos Lun yn ganol haf reit ddigalon.

Mi fydd y daith gerdded nesa fore Sadwrn Medi 21 i Chwarel Dorothea, Chwarel Penybryn a Chwarel Cilgwyn, a’r nesa fore Sadwrn Hydref 19 o amgylch llwybrau Rhostryfan a Rhosgadfan. Am fwy o wybodaeth, ac i gadw lle, cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com

 

[1] https://www.walesher1974.org/her/groups/GAT/media/GAT_Reports/GATreport_668_pt2_compressed6.pdf

[2] https://archwilio.org.uk/her/chi3/report/page.php?watprn=GAT17537&dbname=gat&tbname=core&sessid=CHI3tvunnda&queryid=Q700026001726064566 

[3] John Owen Huws. Straeon Gwerin Ardal Eryri, Cyfrol 2. (2008), 464.

[4] D. E. Jenkins. Bedd Gelert: Its Fact, Fairies & Folk-Lore. (1899), 160.

[5] Dafydd Whiteside Thomas. Chwedlau a Choelion Godre’r Wyddfa. (1998), 54-55.

[6] Cyffredinol 1 — Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru (northwalesriverstrust.org)

[7] https://www.heneb.co.uk/hlc/caernarfon-nantlle/wcaer32.html

[8] Prosiect dendrocronoleg Eryri ar Hafod Ruffydd Uchaf, Beddgelert’ https://coflein.gov.uk/media/78/795/dcp2013_017.pdf

[9] Ibid.

[10] https://coflein.gov.uk/media/78/795/dcp2013_017.pdf

[11] https://archwilio.org.uk/her/chi3/arch.php?county=Gwynedd&lang=eng

[12] W. R. Ambrose. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle. (1872), 52.

[13] Ibid.

[14] John Owen Huws. Y Tylwyth Teg. (1987), 216.

[15] T. Gwynn Jones. Welsh Folklore and Folk-Custom. (1930). 59.

 

Ffynonellau

Cof y Cwmwd

App OS Maps

Gwynedd Archaeological Trust – Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (heneb.co.uk)

Archwilio.org

Coflein.gov.uk

Parc Cenedlaethol Eryri

Gwyn, Dr. David., Llechi Cymru. 2015.

Tomos, Dewi. Chwareli Dyffryn Nantlle. 2007.

Ymddiriedolaeth Afonydd Cymru

Prosiect dendrocronoleg Eryri ar Hafod Ruffydd Uchaf, Beddgelert, 2009.

Hopewell, D., 2007, Roman Roads in North-West Wales (Revision 4)

Parry-Williams, T. H. Cerddi: Rhigymau a Sonedau. 2011.

Dweud eich dweud