gan
Anna Yardley Jones
Cafwyd sesiwn prysur a llawn hwyl yn ein cyfarfod cyntaf ym Mhlas Silyn.
Braf iawn oedd cyfarfod â phawb.
Buom yn brysur yn canu, gwrando ar storiau a gwneud crefft syml.
Roedd cyfle hefyd i chwarae a rhoi y byd yn ei le.
Mae’r sesiynau i gyd yn llawn y tymor yma ond croeso i chi roi eich enw ar y rhestr aros: bookwhen.com/tia fi
Welwn ni chi wythnos nesaf!
Hwyl, Anna (Swyddog Ti a Fi Teithiol)