gan
Llio Elenid
Dydd Sadwrn, 24 o Awst, cynhelir Sioe Y Groeslon, yr 82ain o arddangosfa flynyddol o flodau, llysiau, celf a chrefft, yn Neuadd y Groeslon. Bydd y drysau yn agor am 2pm, a mynediad yn £2 a phlant am ddim. Mae’r cystadlu yn agored i drigolion Y Groeslon, Carmel, Fron, Llandwrog a Rhandir y Groeslon. Gweler manylion y rhaglen yn y lluniau uchod, neu cysylltwch efo Mrs. Gwyneth Matthews ar 01286 830 123 am gopi. Croeso cynnes i bawb!
Hefyd eleni bydd cynnig cudd i’w roi ar ddiwrnod y sioe am y llun isod gan Stephen John Owen. Mae’r llun wedi ei roi yn rhodd gan Llun mewn Ffrâm, a bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng y sioe a Neuadd y Groeslon.
Edrych ymlaen i’ch gweld chi yno ar y diwrnod!