Hanner Tymor Prysur yn Ysgol Bro Lleu

Mae hi wedi bod yn ddechrau blwyddyn ysgol llawn bwrlwm ym Mro Lleu…

gan Iwan Wyn Taylor
Ffilmio 'Ble mae Lleu!?'
Ysgol Greadigol Arweiniol
Disgo Calan Gaeaf
Disgo Calan Gaeaf
Tim pel-droed yr ysgol yn nhwrnamaint yr Urdd
Ymweliad Manon Steffan Ros i hyrwyddo mwynhad o ddarllen
Gweithdy gyda'r artist a'r gof Angharad Pearce Jones

Hanner Tymor Prysur!

Ar diwedd hanner tymor prysur, dyma edrych yn ôl ar ddechrau llwyddiannus a gawsom i’r flwyddyn ysgol. Calonogol iawn oedd gweld yr holl blant yn setlo’n hapus yn eu dosbarthiadau newydd gyda cymaint o frwdfrydedd. Croeso mawr i nifer o blant newydd i’r ysgol ac i unrhyw deulu newydd i Ysgol Bro Lleu.

Mae 19 o blant Meithrin prysur a byrlymus wedi dechrau yn nosbarth Dorothea Bach – croeso mawr i bob un! Mae pob un wedi setlo’n arbennig o dda gyda phawb yn mwynhau mynd am dro i ymweld â’r Ardd Wyllt ac i wneud gweithgareddau awyr agored yno bob bore Gwener.

Fel rhan o’u gwaith thema, mae plant Dosbarth Dorothea a Gallt y Fedw wedi bod ar ymweliad â Glynllifon. Aeth plant Dosbarth Dorothea i’r Fferm Glynllifon i ddysgu am fywyd a gwaith ar y fferm tra yr aeth plant Gallt y Fedw am dro o gwmpas y goedwig a gwneud gwaith maes. Ar daith at Afon Llyfni aeth dosbarth Cilgwyn gan eu bod wedi bod yn dysgu am ddŵr.  Maent hefyd yn mwynhau mynd drosodd i Ganolfan Hamdden Plas Silyn i fwynhau sesiynau addysg gorfforol bob pnawn Mercher.

Ambell ddiwrnod yn nosbarthiadau Llwyd y Coed a Nant y Fron, byddech yn taeru eich bod mewn stiwdio ffilm broffesiynol! Mae yna blant wedi gwisgo fyny gan gamu i fyd chwedlau a Mabinogion, mae yna fwrlwm ac actio gwych, a ceir camerâu yn ffilmio’r cyfan! Cewch weld y ffilm ‘Ble mae Lleu?’ yn fuan! Mae’n bwysig ein bod yn dysgu ac yn codi ymwybyddiaeth o chwedlau a straeon lleol sydd yn perthyn i Ddyffryn Nantlle. Mae’r ysgol yn Ysgol Creadigol Arweiniol ac yn cydweithio gyda ymarferwyr creadigol talentog, Siwan Llynor a Gwion Aled yn dilyn ein cais llwyddiannus am grant gan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae hi wedi bod yn wythnosau hynod o brysur ar frig yr ysgol yn nosbarthiadau Pen yr Orsedd a Phen y Bryn. Ymwelodd y dosbarthiadau â Chastell Caernarfon a Chastell Dolbadarn fel rhan o’u gwaith dosbarth.

Maent wedi bod yn brysur yn datblygu, tacluso, harddu a phlannu planhgion yn yr ardal tu allan yn dilyn derbyn grant gan ‘Cadw Cymru’n Daclus’.

Cawsant sesiynau i hyrwyddo mwynhad o ddarllen a llyfrau Cymraeg – daeth yr awdures Manon Steffan Ros i fewn i’r ysgol a cafwyd sioe ‘Hei Hogia’ gan Emyr Gibson a Siân Beca.

Un o uchafbwyntiau hanner tymor yma i ddosbarth Pen yr Orsedd oedd gweithdy gyda’r artist a’r gof Angharad Pearce Jones ble yr oeddynt yn creu gwaith celf o fetel wedi ei sbarduno gan gerddi R. Williams Parry.

Mae nifer o ddisgyblion Pen y Bryn wedi cwblhau hyfforddiant seiclo Lefel 1 a 2 gyda Uned Diogelwch Ffyrdd Gwynedd. Bob prynhawn Iau mae disgyblion Pen y Bryn yn cael sesiynau gyda CELS (CELS Character Education & Life Skills) ble maent yn meithrin gwytnwch, datblygu hyder, sgiliau cydweithio, a datrys problemau.

Chwaraeon

Da iawn i’r tîm pêl droed am gyrraedd y rownd cynderfynol yn Nhwrnamaint Pêl Droed yr Urdd Rhanbarth Eryri yn Nhreborth. Perfformiodd tîm y genod yn dda iawn hefyd mewn twrnamaint yr Urdd. Da iawn chi am gynrychioli’r ysgol.

Cyngor Ysgol   

Mae Cyngor Ysgol newydd wedi cael ei ethol ar gyfer eleni ac maent wedi dechrau ar eu dyletswyddau yn syth. Maent wedi adnabod yr angen i wella ardaloedd tu allan ac wedi dechrau mynd ati i godi arian i sicrhau hyn. Gweithgaredd codi arian cyntaf oedd y diwrnod hwyl Calan Gaeaf, ble y cynhaliwyd diwrnod gwisg ffansi, gemau, a ‘Bingo Brawychus’. Maent hefyd wedi adnabod yr angen i godi arian i elusennau ac fe fyddant yn mynd ati ar ôl y gwyliau i gynllunio gweithgareddau codi arian at Blant Mewn Angen.

Diolch yn fawr iawn i ‘ADRA’ am noddi parti a disgo Calan Gaeaf – rydym yn gwerthfawrogi eu haelonni yn fawr iawn.

Ymlaen â ni i’r hanner tymor prysur nesaf!