Mynd Amdani yn cynnig benthyciadau di-log

Gyda chyfraddau llog yn codi, mae Mynd Amdani yn mynd yn groes i’r duedd gyda benthyciadau di-log

Menter Môn
gan Menter Môn

Mae Mynd Amdani yn gynllun sy’n rhoi benthyg arian i bobl ifanc yn ardal Dyffryn Nantlle sydd eisiau cychwyn busnes neu sydd eisiau datblygu eu busnes. Maent yn cynnig benthyciad di-log o hyd at £5000 i bobl hyd at 25 oed sydd am ddechrau busnes yn yr ardal neu i’w helpu i ddatblygu eu busnes ymhellach.

Mewn partneriaeth gydag Antur Nantlle mae Menter Môn, fel rhan o gynllun Arloesi Gwynedd Wledig yn lansio Mynd Amdani. Mae’n seiliedig ar egwyddorion Be Nesa Llŷn, sef cronfa benthyciadau di-log sy’n cael ei redeg gan Menter Môn ar ran grŵp o bobl fusnes yr ardal oedd yn awyddus rhoi yn ôl i’r gymuned a helpu pobl ifanc i sefydlu neu ddatblygu busnes yn ardal Pen Llŷn. Ers ei sefydlu yn 2015 mae’r arian wedi cael ei ailgylchu cymaint o weithiau, fel bod dros £70,000 wedi’i ddosbarthu i 15 o fusnesau a mentrau cymdeithasol yn yr ardal. Mae’n ddiogel dweud bod y gronfa yn lwyddiant ysgubol.

Mae Be Nesa Llŷn wedi galluogi nifer o bobl ar draws yr ardal i gychwyn busnes i allu byw a gweithio yn eu hardal leol, gan gynnwys Tanya Whitebits, Wyau Llŷn a Tylino.

“Mae’r benthyciad wedi bod o gymorth mawr i’r busnes – mae wedi fy helpu i ddatblygu’r busnes o ran refeniw… gobeithio y bydd yn datblygu ac yn rhoi cyfle i rywun arall ddechrau eu busnes eu hunain yn lleol hefyd.” Rebecca Hughes, Tylino

Bellach mae Menter Môn wedi partneru ag Antur Nantlle i sefydlu model buddsoddi lleol tebyg yn ardal Dyffryn Nantlle, sef Mynd Amdani. Yn ogystal â chynnig benthyciadau di-log, bydd cymorth busnes ar gael hefyd, fel yr eglura Robat Jones o Antur Nantlle:

“Mae Antur Nantlle wedi bod yn helpu busnesau yn yr ardal ers 1991 ac rydyn ni’n gyffrous iawn i weithio gyda Menter Môn i ddod â’r cyfleoedd gwych yma i bobl ifanc Dyffryn Nantlle. Mae’r ardal yn le gwych i redeg busnes, mae’n ganolog iawn ac mae nifer fawr o fusnesau bach annibynnol yn gweithio yma. Mae ysbryd entrepreneuriaeth yn gryf yma.”

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda’r Hwb Menter, sy’n darparu’r wybodaeth, yr arweiniad, yr ysbrydoliaeth a’r gofod i entrepreneuriaid drawsnewid eu syniadau yn fusnesau llwyddiannus. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys cymuned o unigolion o’r un anian i rannu syniadau a chynnig anogaeth, cyngor busnes ac amrywiaeth o ddigwyddiadau addysgol a chymdeithasol.

Gall Antur Nantlle hefyd helpu drwy gynnig cyfnodau di-rent mewn gwahanol eiddo i’r rhai sy’n dechrau busnesau newydd yn yr ardal – yn dibynnu ar anghenion y busnes.

Gyda’r cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog, mae Mynd Amdani yn cynnig cyfle na ellir ei golli i entrepreneuriaid ifanc yn ardal Dyffryn Nantlle! Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan neu ebostiwch robat@anturnantlle.com

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.