GAIR GAN Y RHEOLWR-SION EIFION

CPD Nantlle Vale 

Begw Elain
gan Begw Elain

Dyma air gan y rheolwr Sion Eifion cyn y gêm fawr Ddydd Sadwrn!⬇ 

📅|28/1/23
🕑|14:00 K.o
🏟|Maes Dulyn, Penygroes

🏆| Rownd 16 olaf FAW Amateur Trophy

⚽| Noddwr y bêl, Pendeitch , 01286 238203

💷| Cash only ar y giât

“Dydd Sadwrn da ni’n estyn croeso i Cardiff Corinthians i Faes Dulyn yn rownd 16 olaf cwpan FAW Trophy. Mae hon yn gêm fawr i’r clwb a da ni’n mynd mewn iddi yn llawn hyder ar ôl perfformiad cadarnhaol yn erbyn Fflint Mountain yn ddiweddar. Gydag amryw o hogia’ yn ôl o anafiadau/‘suspension’ a chwaraewyr newydd sydd wedi ymuno a’r clwb, mi fydd yna ddigon o gur pen o ran dewisiadau’r garfan dydd Sadwrn! Dwy sesiwn ymarfer wythnos yma fel yr arfer rŵan er mwyn paratoi at y gêm. Siwrne saff i bawb o Gaerdydd ac edrych mlaen i weld cefnogwyr Fêl yn ôl yn Faes Dulyn dydd Sadwrn! “

Dewch i gefnogi💙