Os gwelwch griw o blant yn cerdded i lawr y stryd ym Mhenygroes, byddwch yn gwybod bellach mai Cwrs Haf y Clwb Ffilm ydyw unwaith eto. Ddwywaith y flwyddyn, caiff plant a phobl ifanc y dyffryn y cyfle i gael pedwar diwrnod o hyfforddiant proffesiynol am ddim, ac mae ffilm fer newydd sbon yn cael ei greu.
Bellach, mae’r plant oedd ar y cwrs cyntaf yn oedolion, un newydd raddio, eraill wedi mynd i amrywiol swyddi gan gynnwys gweithio yn Pontio, gweithio ym maes ffilm neu gerddoriaeth neu yn y maes digidol. Maent yn cofio’n ôl i Haf 2013 yn hiraethus. Eilir Pierce fu’r hyfforddwr am flynyddoedd ac ar y pryd, roedd Galeri yn cynnal gŵyl Pics bob blwyddyn, sef gŵyl i ddathlu ffilmiau gan blant a phobl ifanc. Sawl gwaith, bu Clwb Ffilm Dyffryn Nantlle yn fuddugol. Daeth gwobrau ar lefel Brydeinig i’r clwb hefyd, pwy all anghofio 2018 pan aeth y cast i gyd i Lundain i ennill efo ‘Swyn’, ac yna pan gawsant daith arall yn 2019 pan enwebwyd Dial ymysg y rhestr fer?
Pwysigrwydd y ffilm yw fod pawb ar y cwrs yn cael y cyfle i greu stori, sgriptio, actio, cyfarwyddo, trin golau, sain a chamera o safon uchel. Maent hefyd yn helpu gyda’r broses olygu ar y diwedd. Maent yn wynebu yr heriau ddaw i ran pobl broffesiynol megis tywydd, cast yn sâl, recordio pan mae sŵn, neu oleuo a thywyllu stafelloedd.
“Mae’n waith caled, ond mae’n hwyl” – dyna ddyfyniad gan ferch ddeg oed yn ystod gwneud y ffilm bresennol. Mae yn ddiwrnod maith, o 10.00 y bore tan 4.00 y pnawn, ac mae’r plant yn dod a’u cinio eu hunain. Yr Orsaf sy’n trefnu’r cwrs, ac mae’n rhyfeddol sut mae adeilad Yr Orsaf ei hun wedi ei recordio ar ffilm gan ddatblygu dros y blynyddoedd.
‘Achub y Ffwng’ yw ffilm 2023, a defnyddir Yr Ardd Wyllt i ffilmio. Mae’n tynnu ar ddarganfyddiad diweddar ym Mhenygroes pan ganfyddwyd ffwng prin iawn yng ngardd eglwys y pentref. Mae’r teitl hefyd yn adlais o’r ffilm gyntaf yn 2013, ‘Achub Penygroes’ oedd yn adrodd stori am swnami yn taro’r pentref.
Edrychwn ymlaen at weld dangosiad o ‘Achub y Ffwng’ pan fydd y ffilm wedi ei orffen.