Caru Gwaith Coed

Mr J O JONES SAER COED 1882 – 1954

Ceridwen
gan Ceridwen
IMG_20210529_173149

Rwyf yn hoff iawn o hen ddodrefn, gorau oll rhai pren, felly pan oedd fy ffrind am wared hen fwrdd bach, mynnais ei gael er mwyn ceisio ei adnewyddu. Nid oedd mewn cyflwr da ond roedd rhywbeth deniadol amdano.  Felly adra a fo yn gefn y car. Y job gyntaf oedd torri ar ei goesau o achos ychydig o damprwydd, a cefais help ffrind a’i li drydan.  Wedyn mynd ati i dynnu hen baent a penderfynnu  llyfnu top y bwrdd I weld y pren gwreiddiol. Mae dror bach yn y bwrdd ac es ati I llnau a trwsio  hon. Er mawr hyfrydwch I mi roedd enw mewn pensel  yn y dror, J O Jones, roeddwn wedi gwirioni.   Wrth weithio  ar lyfnu a llnau y pren, penderfynais fod angen gwybod  mwy am y saer coed.

Es yn gyntaf at Cyfrifiad 1891 yn lleol a canfod un J O Jones yn 9 oed yn byw yn Dolydd Terrace plwyf Llanwnda, ei rieni o Ynys Mon. Ymlaen I Gyfrifiad 1901 ac roedd y teulu wedi symyd I Ysbubor Fawr yn Y Dolydd. Nid yw y ty yno bellach, ond mae ar fap victorianaidd ac mae ffordd iddo or Dolydd, efo pont dros y rheilffordd. Maer bont wedi ei dymchwel erbyn hyn ond roedd yno yn ystod yr 1980au a 1990au; rwyn cofio mochel oddi tani wrth feicio ar Lon Eifion.  Yn 1901 mae J O Jones yn 19 oed ac yn “apprentice joiner” . Dyma saer coed y bwrdd bach shwr o fod!

Erbyn Cyfrifiad 1911 mae J O Jones yn briod efo Annie Lizzie ac maent yn byw yn Rhostryfan. Ei alwedigaeth yw Joiner and Building Contractor! Yn ystod y Clo roedd mynediad am ddim gan Cyngor Gwynedd ir Cyfrifiad ar lein ac roedd yn braf cael ei ddefnyddio. Yn Cofrestr 1939 a ddigwyddod cyn ir Rhyfel dorri allan, mae Mr a Mrs Jones yn dal yn Rhostryfan, yn Pant  Afon, y ddau tua  60 oed. Rhaid oedd disgwyl  wedyn hyd nes daeth  Cyfrifiad 1921 ar gael y llynnedd, I wybod mwy.  Yn 1921 roedd ganddynt ferch fach 7 oed Myfanwy. Roedd Mr Jones yn gweithio i gwmni W D Williams Adeiladwyr yn Caernarfon, ei gyd weithwyr ar y pryd o Lanengan a Criccieth. Es ymlaen  wedyn I chwilio  am Myfanwy ar Cofrestr 1939, erbyn hynny byddai yn 25 oed, ond ofer fu y chwilio.

Gan fod fy hen deulu i yn hannu o Rhos isaf, roeddwn a diddordeb  yn yr ardal. Yn y cyfamser, roeddwn wedi gorffen  gweithio  ar y bwrdd bach, yn hapus iawn o’i edrychiad, paent ffres ar ei goesau, y top a’r dror wedi eu cwyro; roedd yn hyfryd.

Ond roeddwn angen ddiwedd i stori y saer. Euthum I weld ffrind i Rhos isaf. Awgrymodd  chwilio  am fedd y teulu a gan nad oedd cofnod o Morfydd yn 1939, roedd rhaid meddwl a oedd trychineb  wedi dod i’w rhan. Bum yn edrych ym mynwentydd cyfagos, ond yn ofer.  Cysylltiais gyda Cymdeithas  Hanes Teuluoedd Gwynedd a daeth y gwirionnedd trist i’r fei. Bu farw Morfydd yn 19 oed yn 1933 ac mae bedd y teulu yn Eglwys St Gwyndaf, Llanwnda,  nepell o fedd fy hen deulu i. Rwyf wedi bod wrth y bedd ac mae englyn bob un ar y garreg i’r  Saer Coed a’i ferch ddawnus,  gan Gilbert Williams.  Maen debyg fod Mr J O Jones yn boblogaidd iawn in ei filltir sgwar, yn ol hanes ei angladd or Herald Gymraeg yn 1955 “Adeiladydd diesgeilus ac yna Clerc Gwaith Cyngor Dosbarth Gwyrfai” .  Roedd dyfodol disglair iawn i Morfydd fel piannydd medrus. Roedd yn dalentog a hoffus a phoblogaidd yn yr ardal fel cyfeilydd Eisteddfodau,  yn ol yr Herald Gymraeg 1933.  Yn 1931 cafodd ei dewis fel Cyfeilydd I Gapel Horeb , yn ol cofnod o hen lyfr taid fy ffrind yn Rhos isa ar gymeriadau Rhostryfan. Felly ddiwedd trist iawn i stori Myfanwy, ei rhieni yn colli eu merch dalentog mor ifanc.

Mae wedi bod yn fraint cael dod I adnabod y teulu bach yma, oedd yn hapus eu byd tybiwn, ganrif yn ol. Ysgwni a oes teulu iddynt dal o gwmpas; roedd gan J O Jones dri brawd nol yn Ysgubor Fawr yn 1901.  A hoffwn wybod os oedd yn cael ei adnabod fel Now Saer!!

Mae llinell o’r englyn sydd ar ei garreg fedd yn crynhoi fy nheimladau am y Saer Coed  “o’i ol gwelir gwaith iw gofio” ac rwyf yn falch  bod gennyf ddarn bach or gwaith hwnnw.

Ymunwch â’r sgwrs

Wendy Jones
Wendy Jones

Wedi mwynhau y stori yn fawr, y dodrefnyn yn hardd ac yn ddefnyddiol, ei grefft wedi ei werthfawrogi a’r hanes y crefftwr yn rhoi cip olwg ar hanes ein bro.