Yn ddiweddar bodiais drwy lyfr “Cofio Canrif” o 1998, am fy hen Ysgol, a synnu o weld fod y llyfr yn chwarter canrif oed. Ynddo nodir mai ar Sul y Pasg 1898 gosodwyd carreg sylfaen yr Ysgol; gorymdaith fawr, efo Seindorf Dyffryn Nantlle yn arwain llu o bobl y Dyffryn a’r Cyfarfod yn Capel Soar oherwydd tywydd garw. Mae’n werth darllen y llyfr am yr hanes, y lluniau ac i werthfawrogi popeth aeth ymlaen yn yr ysgol. I gael hanes addysg yn y Dyffryn cyn hynny darllenwch Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes 1979 “A Fynn Esgyn, Mynn Ysgol” sydd yn mynd a ni yn ol i’r 1700au ac yn ddifyr iawn.
Ac mi af nol i 1979 achos dyma flwyddyn y “Lefel O” i mi, a pawb sydd yn cael penblwydd mawr eleni, neu ddiwedd y llynedd! Roeddem yn eistedd tua 10 arholiad mewn dwy wythnos, holl waith fform 4 a fform 5 yn gorfod cael ei gofio ar gyfer arholiad bore mewn un pwnc ac yn amal pwnc arall yn y pnawn. Adra wedyn i astudio y pynciau at drannoeth. Yn fy nyddiadur mae sylwadau fel “awful” “ddim yn bad” ac “uffernol” ar ddiwedd pob diwrnod arholiad! Roedd y “Prac” yn Gwyddor Ty yn newid bach i’w groesawu. A diolch am Rali Ffermwyr Ifanc yn y canol i gael chenj bach, a oedd yn digwydd bod yn Glynllifon yn 1979.
A diwrnod canlyniadau!! Sgeni ddim cof o’u derbyn ond dwi yn cofio cerdded heibio Twll Braich ac i ben Moel Tryfan efo fy ffrind i drafod ein dyfodol!
Yn y Ddarlith gan Gwynfryn Richards mae son am brentisio bechgyn, yn yr 1800au, i ddysgu a meistrioli crefft, fel rhan o addysg, ac mae’n braf bod llawer o ddisgyblion diweddar yr Ysgol wedi aros yma, yn grefftwyr a phobol busnes ac yn cyfoethogi y Dyffryn. Yn y llyfr Cofio Canrif mae canwr o’r Dyffryn yn honi mae ef sydd efo record am falu ffenestri yr ysgol. Ysgwni a yw y record wedi ei thorri yn y chwarter canrif ddiwethaf ! Rhaid holi y Gofalwr! Y gwaethaf a wnes i yn yr Ysgol oedd gwisgo sgert denim a brynodd mam yn Ffair Criccieth a cael row am dorri’r rheolau.
A pwy syn cofio y Geraniums yn y lle Biol? Dim ond pinsio deilen Geranium sydd raid a dwi nol yn y cwt pren. Yn yr un modd rwyf yn coginio Duchesse Potatoes weithiau i gofio am y gwersi coginio gwych. Ac mi fuasai wythnos wedi bod yn hir heb gael mynd i Siop Gloch i brynnu Caramac a Calypso.
Felly ar y 6ed o Fedi 1898 cyhoeddwyd yn Yr Herald fod yr Ysgol newydd yn barod i’w hagor. Roedd wedi ei chwblhau ar gost o £3000 (£498,879 yn pres heddiw mae’n debyg) ac roedd yn ddechrau pennod newydd i addysg yn y Dyffryn.
Pob hwyl i’r Ysgol yn y chwarter canrif nesa ac i pawb syn cychwyn yn YDN wsnos yma.