‘Urdd Gobaith Cymru Fach’

Cerdd anghyoeddedig i’r mudiad gan Griffith Francis yn y 1920au ac ychydig o hanes cynnar yr Urdd yn Nyffryn Nantlle

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen
Eisteddfod-yr-Urdd 1930

Côr buddugol Aelwyd yr Urdd Nebo, Eisteddfod yr Urdd Caernarfon 1930

Urdd Gobaith Cymru yn 100 oed

‘… galwyd hi’n Urdd Gobaith Cymru Fach, a hynny oherwydd mai ein plant yw Gobaith Cymru Fach.’

Ifan ab Owen Edwards, Cymru, Cyfrol 62 (Ionawr 1922), t.75.

Dyma oedd geiriau Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, mewn erthygl yn y cylchgrawn Cymru gan mlynedd union yn ôl, wrth egluro enw’r mudiad newydd a oedd wedi ei ffurfio ar dudalennau Cymru’r Plant ym mis Ionawr 1922. Mae’n mynd ymlaen i egluro:

‘Gan mai tuedd plant ein trefydd, yn enwedig y dyddiau hyn, yw cefnu ar yr iaith Gymraeg, ac hefyd ar ddiwylliant gorau ein gwlad, rhaid gwneud rhywbeth i’w hatal.’

Ifan ab Owen Edwards, Cymru, Cyfrol 62 (Ionawr 1922), t.75.

Fel ei dad o’i flaen, O. M. Edwards, a geisiodd ddwywaith yn aflwyddiannus i sefydlu mudiad ar gyfer ieuenctid Cymru, roedd Syr Ifan yn teimlo nad oedd digon o gyfleoedd i blant ddefnyddio’r iaith. Gofynnodd drwy gylchgrawn Cymru’r Plant i blant Cymru ymuno â mudiad newydd o’r enw ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’ – a dyma ddechrau ar fudiad arbennig yr Urdd. Erbyn diwedd 1923 roedd yr aelodaeth yn 3,000, ac yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Erbyn 1927 roedd dros 5,000 o aelodau a 80 o adrannau.

100 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r Urdd wedi cyfoethogi bywydau dros 4 miliwn o blant a phobl ifanc ers cychwyn fel mudiad cylchgrawn. Heddiw, 25 Ionawr 2022, mae’n ddiwrnod parti pen-blwydd yr Urdd a dechrau ar ddathliadau canmlwyddiant mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru.

Cerdd heb ei chyhoeddi gan Griffith Francis

Rhai o drigolion Dyffryn Nantlle oedd wedi gwirioni gyda gweledigaeth Syr Ifan yn y 1920au, ac yn weithgar gyda’r mudiad yn lleol oedd Griffith ac Owen Francis, y ddau frawd talentog o Nantlle.

Owen Francis, Bob Owen a Griffith Francis
Owen Francis, Bob Owen a Griffith Francis

Yng nghanol cerddi anghyoeddedig y brawd hynaf, Griffith, sydd ar gadw mewn sawl lleoliad, mae’r gerdd ganlynol sy’n plethu ei frwdfrydedd dros y mudiad newydd a’i ddymuniad ar gyfer dyfodol Cymru:

Urdd Gobaith Cymru Fach

Deffrown, deffrown yn llu

I godi Gwalia lân,

Cyneuwn goelcerth cariad cu

Ar allor cerdd a chân;

Ein bywyd rown i hon

A’i Mabinogion iach,

Yn enw’n Duw, ein gwlad, a’n iaith

‘Urdd Gobaith Cymru Fach.’

 

Boed copa’r Wyddfa Wen

Yn llwyfan llên gerllaw,

A’n bryniau maith i’r iaith yn ris

Hyd Gader Idris Draw;

I’n bendigedig waith

Deffrown a chanu’n iach,

Yn enw’n Duw, ein gwlad, a’n hiaith

‘Urdd Gobaith Cymru Fach.’

G. W. Francis

 

Galw ar blant a phobl Cymru mae cerdd Griffith, gyda’r defnydd arwyddocaol o’r berfau ‘deffro’ a ‘chynnau’ yn y person cyntaf lluosog yn annog pawb i gefnogi’r fenter newydd er lles Cymru a’r Gymraeg.

‘Bodlon ydoedd i lafurio gyda’r ŵyn,’ meddai un ysgrif goffa ar farwolaeth Griffith yn 1936 wrth gyfeirio at ei ofal am blant y pentref, ac mae ganddo nifer o gerddi sy’n adleisio ei dynerwch dros y genhedlaeth nesaf. ‘Gwae’r plwyf ni ddysgo’r plant’ yw llinell olaf un o’i englynion anerchiad mewn Eisteddfod Plant, ac mae’r cerddi syml a thelynegol a gyhoeddai mewn cylchgronau fel Cymru’r Plant a Thrysorfa’r Plant yn rhoi’r argraff ei fod yn awyddus i rannu sŵn geiriau ac odlau gyda’r genhedlaeth nesaf. Yn wir, mae’n cyflwyno ei unig gyfrol o gerddi, Telyn Eryri, i blant Bala Deulyn.

Nid oes dyddiad ar y gerdd i’r Urdd, ond tybiwn iddi gael ei hysgrifennu yn gynnar iawn yn hanes y mudiad, ac yn amlwg, cyn colli’r ‘Fach’ o’r enw tua diwedd y degawd. Yn ychwanegol at y geiriau, ymysg papurau personol y Brodyr Francis yn Archifdy Prifysgol Bangor mae’r gerdd wedi ei gosod i gerddoriaeth gan Owen, y brawd ieuengaf. Mae’r isod wedi ei nodi yn llawysgrifen Griffith ar un copi o’r gerdd:

“Y mae gan OWF dôn ar y geiriau uchod a chyflwyna’r ddeufrawd y cwbl gyda llongyfarchiadau at wasanaeth ‘Yr Urdd’.”

 

Hywel’s Brigade’: Hanes cynnar yr Urdd yn Nyffryn Nantlle

Tybed a oes rhywun yn gwybod mwy am hanes gwreiddiau’r Urdd yn Nyffryn Nantlle? Lle’r oedd yr adran neu’r gangen gyntaf un?  Ai yn Ysgol y Sir ym Mhen-y-groes oedd hi?

Mae’n debyg mai’r plant eu hunain ddechreuodd gangen o’r Urdd yn yr ysgol yn 1925, o dan arweiniad Hywel D. Roberts, Tal-y-sarn (g. 1910) oedd wedi cyfarfod Ifan ab Owen Edwards. Roedd pawb yn talu swllt i ymaelodi ac yn cael tystysgrif a bathodyn:

Tystysgrif Aelodaeth Urdd 1922
Tystysgrif Aelodaeth mudiad Urdd Gobaith Cymru Fach 1922, yn cynnwys y 7 rheol gychwynnol (yn y cylchgrawn ‘Cymru’, cyf. 62, Ionawr 1922, t.74)

Yn ôl rheolau’r Urdd, roedd cael 50 o aelodau yn troi’r arweinydd yn Gadfridog – ac fe ddaeth Hywel yn Gadfridog yn sydyn iawn gan fod gymaint o ddiddordeb yn yr ysgol. Byddai’r gangen yn cyfarfod bob prynhawn dydd Gwener a’r prifathro, D. R. O. Prydderch, yn cyhoeddi yn y bore:

“Hywel’s Brigade will meet in the Lecture Room at 4 o clock, and see General Roberts that your battalion is out by 5 o clock.”

Dyfyniad yn R. Gordon Williams, ‘Atgofion Plentyndod’, tt.54-5.

Un o’r aelodau cyntaf oedd R. Gordon Williams – Bobby Gordon a ddaeth yn athro Cemeg maes o law – ac mae ei atgofion yn cyfeirio at ddigwyddiadau ac achlysuron yn y dyddiau cynnar hynny. Mae’n sôn am brynu baner i’r Gangen a gorymdeithio y tu ôl iddi am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi 1927. Mae hefyd yn cyfeirio at 4 ohonyn nhw – fo, Hywel, Alwyn Morris a Evie Humphries – yn mynd i wersylla yn y Gwersyll cyntaf a gynhaliwyd i fechgyn yn unig yn Llanuwchllyn yn ystod Haf 1928. Ymysg profiadau amrywiol yr antur hwnnw roedd gweld pêl rygbi am y tro cyntaf gan fois y Sowth, golchi, colli ac achub letys i swper yn yr afon, dringo’r Aran a Syr Ifan yn dweud hanes y fro, taith i Harlech i weld y Castell a chael te yn y Coleg a mynd i Wrecsam i weld argraffu Cymru’r Plant. Mae’n werth darllen Atgofion Plentyndod (Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes 1983-84) i gael mwy o’r hanes:

“Dyma gychwyn fy nghysylltiad innau â’r Urdd a’i gwersylloedd a barhaodd yn ddi-dor am dros hanner canrif gan greu cyfeillgarwch gwir rhyngof â llun o gyfeillion led-led Cymru gyfan.”

R. Gordon Williams, ‘Atgofion Plentyndod’, t.56.

Aeth Hywel D. Roberts hefyd ar bererindod cyntaf yr Urdd i Genefa yn 1930.

Yn 1928 cyhoeddwyd cylchgrawn yn yr ysgol, Y Cymro, sef cylchgrawn Urdd Gobaith Cymru Fach a oedd yn cynnwys cerddi ac ysgrifau gan yr aelodau, gan gynnwys Menna Francis, merch Griffith Francis.

Cylchgrawn Cymro 1928
Cylchgrawn Ysgol y Sir, Pen-y-groes 1928, sef cylchgrawn Urdd Gobaith Cymru, Y Cymro (allan o’r llyfr ‘Cofio Canrif’)

Roedd y gangen yn llwyddiannus iawn yn Eisteddfodau’r Urdd, yn enwedig yng nghystadleuaeth y corau, ac yn rhoi’r bathodynnau yr oeddynt yn eu hennill ar y faner, fel y gwelir yn y llun isod o enillwyr yr ysgol yn Eisteddfod yr Urdd Caernarfon 1930.

Enillwyr Ysgol Sir Pen-y-groes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caernarfon, 1930. Gweler y faner sy’n cynnwys y bathodynnau (allan o ‘Cofio Canrif’)

 

Côr yr ysgol a enillodd yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe 1931 o dan arweiniad Mr C. H. Leonard, athro ffiseg yr ysgol, a ddaeth i sefydlu ac arwain Côr Meibion Dyffryn Nantlle flwyddyn yn ddiweddarach. (Allan o ‘Cofio Canrif’.)
Rhes ôl o’r chwith: Marianne Jones, Clynnog; Vera Jones, Groeslon; Caradog Jones, Carmel; Edith Jane Morris, Llanllyfni; Phyllis Llywelyn Griffith, Llanllyfni.
Ail res: Susie Gillis, Pen-y-groes; Megan Thomas, Nebo; C. H. Leonard; Olwen Lloyd, Pen-y-groes; Morfudd Thomas, Groeslon; Noreen Thomas, Pen-y-groes.
Rhes flaen: Ieuan Ellis Jones, Groeslon; Gwilym Thomas, Nebo; Thomas Elwyn Griffiths, Pen-y-groes.

Mae’n amlwg bod brwdfrydedd mawr yn y Dyffryn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Caernarfon 1930, sef yr ail Eisteddfod i’w chynnal ar ôl y cyntaf yng Nghorwen yn 1929. Dyma blant Pen-y-groes yn cychwyn am Gaernarfon:

Plant yr Urdd, Pen-y-groes, yn cychwyn i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caernarfon 1930. Bobbi Morris sy’n dal y faner.

Bu Adran yr Urdd Nebo yn fuddugol yn yr Eisteddfod yng Nghaernarfon yn 1930 hefyd ac fe welir moto cynnar y mudiad, ‘Er mwyn Cymru’ ar y faner yn y llun:

Eisteddfod-yr-Urdd 1930
Côr buddugol Aelwyd yr Urdd Nebo 1930, yn cael eu hyfforddi gan brifathro Ysgol Nebo, Elias Thomas.

 

Ers yr Eisteddfodau cyntaf un bron i ganrif yn ôl, ac hyd at yr Eisteddfod ddiwethaf yn 2020/21 – lle enillodd dau o bobl ifanc Pen-y-groes, Megan Angharad Hunter a Carwyn Eckley, y Goron a’r Gadair – mae’n amlwg bod hanes cyfoethog wedi bod i’r Urdd yn Nyffryn Nantlle yn ystod y 100 mlynedd.

Byddai’n dda gallu rhannu mwy o’r hanes hwnnw yn ystod 2022.