Siom yr ŵyl

Blywddyn yn ôl, wnaethon ni groesawu’n hogyn bach ni i’r byd. Dyma adlewyrchiad ar fywyd babi a mam newydd gan fyfyrio ar stori’r Nadolig.

gan Amelia McCain

Dw i wrth fy modd efo’r amser yma o’r flwyddyn. Y disgwyl am y Nadolig, y myfyrio, yr hiraeth sy’n codi. Flwyddyn diwetha, fel Mair, roeddwn i’n disgwyl genedigaeth ein babi. Roedd “hud” y beichiogrwydd wedi fy helpu i weld dyfodiad Iesu mewn ffordd Newydd—llai o “dawel nos” a mwy o “daflu i fyny.”

 

Fe ddathlon ni’r flwyddyn newydd yn yr ysbyty cyn croesawu ein mab annwyl i’r byd. Genedigaeth–am lanast, llawn poen a’r teimladau dwys sy’n gwneud ni’n ddynol.

Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed // daeth i fyw yn ein plith ni. Ioan 1:14

Nadolig eleni, trodd fy meddyliau at Mair unwaith eto. Mi wnes i sylweddoli mai dim ond cychwyn ei stori hi roeddwn i wedi ei ystyried. Yn y gorffennol, mi oeddwn i wedi dathlu’r disgwyl a gorfoleddu dros yr enedigaeth. Ond beth am fywyd Mair a’i theulu flwyddyn wedi’r geni?

‘Sgwn i os oedd hi wedi’i siomi gan Iesu erioed? Mae pedwar llyfr cyntaf y Testament Newydd yn llawn pobl oedd yn disgwyl Meseia gwahanol i Iesu. Dw i’n dychmygu mai Mair oedd yr un gyntaf i sylweddoli nad oedd dyfodiad y Meseia mor ysblennydd â’r hyn roedd pobl wedi ei ddychmygu. Efallai mai’r milfed clwt oedd wedi’i pherswadio hi. Neu gweld 3:00 am yn fwy aml na liciai hi. Neu pan oedd Iesu yn peidio. Gadael. Y lamp (neu gannwyll?). Yn llonydd. Beth sydd i’w wneud pan fo Tywysog Heddwch yn cael tantrym?

Mi oeddwn wedi fy siomi sawl gwaith yn 2020. Doedd blwyddyn gyntaf Derwen ddim fel roeddwn wedi ei obeithio. Roedd fy mhen wedi’i lenwi â gwersi nofio, gwneud ffrindiau efo mamau eraill, diwrnodau i’r brenin ar lan y môr, gweld teulu nôl adra, lluniau efo Siôn Corn. Yn fwy na dim, mi oeddwn eisiau sgyrsiau am hyfrydwch a heriau bywyd dros banad, yn lle trio cadw babi’n ddistaw yn ystod galwadau Zoom. Mae’r rhestr yn mynd yn ei flaen a dwi wedi galaru colledion y profiadau hyn.

A dyma Mair yn dweud, ‘Dw i eisiau gwasanaethu’r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi’i ddweud ddod yn wir.’ Luc 1:38

Ar ôl blwyddyn, roedd Mair mam Iesu yn dal i wasanaethu Duw hyd yn oed pan doedd pethau ddim yn edrych fel roedd hi wedi disgwyl iddyn nhw fod. ‘Beryg bod hi eisiau mwy o ymweliadau brenhinol a llai o nosweithiau di-gwsg. Tydy dilyn Iesu ddim wedi bod yn odidog imi eleni. Heb amheuaeth, cefais sawl pwynt llachar wrth edrych nôl, pan ddwedodd Duw yn union beth roeddwn angen ei glywed. Ond gan amlaf, roedd fy nhaith ffydd 2020 yn ddistaw a di-nod. Wedi gŵyl y geni a dechrau blwyddyn newydd, fy ngweddi i—fel geiriau Mair—yw i fod yn ffyddlon i Dduw er gwaetha’r siom dw i’n ei deimlo. Mae Duw gyda ni. Mae o’n gwybod pa mor anodd mae hi wedi bod.