Siarad yn glir yn Rhostryfan

Mae plant bach Cylch Meithrin Rhos yn deall yn well, diolch i fygydau newydd y staff…

Non Gwenhwyfar Tudur
gan Non Gwenhwyfar Tudur
Mygydau newydd

Natalie Usher, Cara Griffiths a’r Is-arweinydd Alwena Davies yn y mygydau newydd

Alwena Davies
Natalie Usher

Mae genod cyfeillgar Cylch Meithrin Rhostryfan wedi cael mygydau newydd sbon – rhai clir! A dyma rai o’r cynorthwywyr yn modelu’r mygydau tryloyw i chi – Natalie Usher, Cara Griffiths, a’r Is-arweinydd Alwena Davies. Mae dau aelod arall o staff hefyd yn eu gwisgo, sef Nerissa Owen, a’r Arweinydd Catrin Glyn Owen.

Gyda mygydau’n orfodol ar hyn o bryd, roedd y staff ychydig yn bryderus nad oedd y rhai bach yn gallu gweld eu hwynebau a’u mynegiant wrth gyfathrebu a chysuro. Mae plantos yn dechrau yn y Cylch o ddwy oed. Felly dyma ateb y broblem efo mygydau clir.

Maen nhw hefyd yn help garw gyda phlentyn sy’n drwm ei glyw neu fyddar, ac eisiau darllen gwefusau.

“Mae o’n help i blant efo nam clywed, ac mae o’n neis i blant gael gweld ein cegau,” meddai Alwena Davies. “Mae o’n teimlo’n grêt.”

Yn ôl ei chydweithiwr Natalie Usher, “mae o’n grêt i blant weld ein ceg ni. Mae o’n haws, ac yn lot yn well na’r hen rai.”

“Maen nhw’n dda iawn am helpu’r rhai bach yn enwedig o ran deall cyfarwyddiadau syml ac ymadroddion wyneb,” meddai’r Arweinydd Catrin Glyn Owen.

Yn ôl un fam o Rostryfan, sydd â merch fach sy’n drwm ei chlyw a oedd yn arfer mynd i’r Cylch, gall y  mygydau wneud gwahaniaeth mawr.

“Fydden ni ddim wedi darganfod bod ein merch yn drwm ei chlyw, ac angen teclynnau clyw yn y ddwy glust, oni bai bod arweinydd craff y Cylch wedi sylwi bod y fechan yn edrych ar ei gwefusau wrth iddi siarad,” meddai Non Tudur.

“Pe bai plentyn bach â nam clyw’r un peth yn dechrau rŵan yn y Cylch, mi allai’r cynorthwywyr asesu yn yr un modd – ni fyddai hyn wedi bod yn bosib gyda mygydau arferol.”

Ymateb i her Covid

Mae Cylch Meithrin Rhostryfan yn cynnig sesiynau rhwng 8.50am hyd 11.30am o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, ac yn croesawu plant o ddwy oed hyd at oed Dosbarth Meithrin yr ysgol.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i’r Cylch, yn enwedig ers ailagor ym mis Medi 2020 – i rai 3 a 4 oed yn gyntaf, cyn ailagor i blant 2 oed ar ôl hanner tymor yr hydref – a gorfod cyflwyno’r holl ganllawiau newydd o ran glendid a diogelwch.

Bu’n heriol yn ariannol oherwydd y bu’n rhaid prynu llawer iawn o gyfarpar er mwyn dilyn y canllawiau caeth.

“Rydan ni’n lwcus iawn i gael grant gan y Mudiad Meithrin i brynu adnoddau ac offer newydd i wneud hyn,” meddai’r Arweinydd Catrin Glyn Owen, sydd wedi sefydlu grŵp codi arian i’r Cylch eleni mewn ymateb i’r sefyllfa.

Llwyddodd y grŵp i godi tua £500 tuag at y Cylch ac elusen Awyr Las mewn Raffl Gŵyl Ddewi eleni.

“Os oes unrhyw riant neu aelod o’r gymuned yn dymuno helpu byddwn yn ddiolchgar o hyn,” meddai. “Cysylltwch â cylchrhos1@gmail.com am ragor o fanylion.”