Sioe Flodau yn ol!

Wedi 2 flynedd o aros…

angharad tomos
gan angharad tomos

Ydych chi’n cofio un o ddigwyddiadau cynta’r hydref bob blwyddyn? Wedi i’r tymor newydd gychwyn, a’r plant ddychwelyd i’r ysgol, byddai un pnawn Sadwrn arbennig yn Nyffryn Nantlle. Byddai drysau’r Neuadd Goffa yn agor, a byddai’r ddwy ystafell gyfarwydd wedi eu gweddnewid yn ffurf ar Ardd Eden. Byddai’r byrddau simsan res ar ol rhes, dan eu sang efo llysiau a blodau na welwyd eu tebyg. Am fisoedd, bu’r ymgeiswyr yn meithrin y rhain yn eu gardd, ond yna deuai’r dydd o brysur bwyso i benderfynu pwy oedd y cyntaf, yn ail ac yn drydedd. 

Y newyddion da yw fod y Sioe Flodau yn ol – ar y 10ed o Fedi. I’r sawl sydd ddim yn garddio, mae cyfle i goginio, i’r sawl sydd yn methu coginio, mae adran ffotograffiaeth. Os nad oes cystadlu yn eich gwaed, dowch draw i edmygu gwaith eraill a chael paned a chacen yn y fargen. Dydi’r plant ddim yn cael eu anghofio – cewch chithau dynnu lluniau a threfnu blodau. Mor dda yw cael croesawu’r Sioe yn ol wedi 2 flynedd, ac os nad yw’r dyddiad yn gyfleus, yna bydd y Sioe Flodau ar Hydref 29.