Pwysigrwydd Siopau yn lleol Nadolig

Dyma ddarn ysgrifennais fis ddiwethaf i Llwyddon Lleol 2050 fel cynhyrchydd cynnwys digidol

Begw Elain
gan Begw Elain

Gyda’r Nadolig ar y gorwel, ydau chi wedi meddwl siopau eich anrhegion yn Lleol? Yn amlwg, mae hon yn ddadl sydd digwydd yn y flynyddol, ond does dim ddigon o bwyslais yn fy marn i  ar ba mor arbennig  yw’r effaith ar y busneswyr.

Gallwn ddadlau llawer ynglŷn â pham fuasech yn well i chi siopau ar-lein? E.g gall fod yn gyflymach yn cyrraedd ond ystyriwch o ddifri siopau lleol!!

Dyma 5 tip gallwch ei ddilyn yn ystod y dolig yma

1.Defnyddio pŵer cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod Ffeiriau/Siopau lleol.

Cadwch allan ar wefannau Cymdeithasol amdan  ffeiriau Nadolig neu siopau Lleol ,maent yn dagwydd yn aml rŵan mewn Ysgolion a Neuaddau Lleol. Ceisiwch fynd yno, a meddyliwch wneud rhestr be fuasech chi licio ei brynu i’r unigolion. Mae wastad bargeinion da mewn siopau Lleol ar gyfer y Nadolig!

2. Cofiwch am ein Amgylchedd.

Yn amlwg gall prynu nwyddau ar lein arwain tuag at lawer iawn o focsys a bagiau plastig. Ceisiwch helpu’r blaned drwy leihau carbon  ar ôl troed carbon a defnyddiau lapio.Ceisiwch fod yn un i leihau’r nwyddau lapio yn ystod y Nadolig hwn.

3.Buddsoddi yn ein cymunedau

Gyda dinasoedd a siopau mawr dod yn fwy cyfleus, ceisiwch ystyried o ddifri gwario yn eich siopau lleol. Rhai o ein siopau lleol yw calon ein cymunedau, dyma  sy’n cynnal ysbryd y pentref. Ceisiwch fuddsoddi a pharhau swyddi yn eich cymuned.

4.Anrhegion unigryw perffaith ar eich gyfer chi

Mae’r Nadolig yn amser i roi, a’r Nadolig hwn gallech roi’r anrhegion mwyaf unigryw a bendigedig drwy siopa drwy fusnesau bach lleol. Mae gan fusnesau bach y pŵer i fod mor unigryw ag y dymunant, fel bod combo rhyfedd o ddiddordebau sydd gennych chi a’ch ffrindiau, mae’n debyg bod gan rywun arall hefyd!

5. Perchnogion.  Gyda’r nod Nadolig pawb yw ceisio trosglwyddo Cariad a dathlu ein pethau pwysig yn eu bywyd. Pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth gan wneuthurwr lleol, neu hyd yn oed cenedlaethol, byddwch chi’n gwneud eu diwrnod! Yn lle leinio Pwysigrwydd siopau Nadolig hwn i bocedi’r archfarchnadoedd neu siopau cadwyn, fe allech chi fod yn llonni Nadolig perchennog!

Diolch yn fawr i chi am ddarllen.

Mwynhewch y siopau a Nadolig Llawen i chi gyd.