Parti diwedd tymor tîm dan 10-CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale 

Begw Elain
gan Begw Elain
1AFFAD98-B752-4A03-A2D9
3C47C80B-D956-4E86-960E

Y criw dan 10 wedi mwynhau chwarae ffwtgolff ar gwrs golff Tyddyn Mawr, Llanrug, ddoe cyn mynd ymlaen i Bar Bach am fwyd ac adloniant gan Elidir Glyn. 

Hoffai’r tîm ddiolch o galon i Ffion a Tudor o Bar Bach am eu croeso acw, y bwyd ardderchog ac am eu haelioni yn ystod y tymor fel ein prif noddwr. Diolch anferthol hefyd i Elidir Glyn – y plant (a’r oedolion) wedi gwir fwynhau.

Hoffai’r clwb hefyd ddiolch yn fawr iawn i Jason Parry Jones a Kevin Sheret am hyfforddi’r tîm trwy’r tymor. Rydym wir yn gwerthafawrogi eich gwaith caled.?

#CPDNantlleVale #CmonyFêl