Nantlle Vale v Llangefni

Dewch i wybod mwy am gêm Nantlle Vale penwythnos yma..

Begw Elain
gan Begw Elain

?NANTLLE VALE V LLANGEFNI?

⚽| Ymunwch gyda ni brynhawn Sadwrn yma yn Faes Dulyn lle byddwn yn croesawu Llangefni draw ar gyfer gêm y gynghrair, gic gyntaf 14:30. ?⚽

☕| Bydd y siop ar agor gyda digon o ddanteithion melys a diodydd poeth i’ch cadw trwy’r gêm??
?| Ar y funud mae ein tîm cyntaf yn sefyll ar yr ail safle gyda phymtheg o bwyntiau tra mae Llangefni yn sefyll ar safle pedair ar ddeg gyda thri phwynt. Tro diwethaf i’r timau wynebu ei gilydd oedd diwedd Medi mewn gêm y gynghrair gyda gôl hwyr fuddugol y gêm gan Ashley Owen yn wneud hi 3-2 i’r Fêl…

Tybed beth fydd y canlyniad penwythnos yma?

Dewch draw i weld…. ??

Prisiau tymor 2022/ 23. Oedolion £4.00, Oap £2.50! Ieuenctid (11- 15) £2.00
Plant £1.00.

?Dronau Foulkes

#CmonyFêl #CPDNantlleVale