Pob lwc Dan-CPD Nantlle Vale

Nantlle Vale FC

Begw Elain
gan Begw Elain
1590B66C-8E28-4019-A600

Hoffai aelodau pwyllgor Clwb Pêl- Droed Nantlle Vale ddymuno pob lwc i Daniel Bell tra yn ymuno a Clwb Pel Droed Bethesda fel chwareuwyr. Mae Dan wedi penderfyny ymuno a clwb arall i ail gydio yn ei yrfa chwarae pêl droed ar ôl rheoli am flynyddoedd.

Mae Dan wedi profi yn reolwr dawnus i ni fel clwb, mae o wedi ymrwymo blynyddoedd o’i amser yn rheoli y tîm cyntaf a timau ieuenctid. Mae o wedi bod yn gyd-reolwr diffuant i Sion a mi fydde ni gyd yn ei golli yn cae fêl pob dydd sadwrn. Mae Dan yn rhoi yr awennau drosodd i Sion yn gyfan gwbl a mae Sion yn reolwr profiadol sy’n gyffroes i arwain y clwb i’r lefel nesaf. Diolch i ti Dan am bob dim, lejand o fri a ffrind i ni gyd, diolch ti mêt a pob lwc.

Mae croeso cynnes i Dan yn nôl i Cae Fêl pob amser ?