Hel mwyar duon

A syniad am ambell bwdin

angharad tomos
gan angharad tomos

Ydych chi wedi bod yn hel mwyar duon eto? Maent wedi ymddangos yn gynnar eleni, ac roedd modd eu hel ym mis Awst. Wn i ddim pa mor gyffredin yw’r arferiad bellach, tydi mwyar ac aeron eraill i’w cael rownd y flwyddyn wedi eu rhewi mewn archfarchnad? Ond i mi, mae yna swyn tymhorol i’r ddefod. Fel plant, byddem yn hel pwysi ohonynt, a Mam yn gwneud tarten a phwdin efo nhw.

I’r rhai dibrofiad, dim ond bocs neu bowlen ydych ei angen ac i ffwrdd a chi. Yr unig reol ydi peidio eu hel wedi iddi fwrw. Pan ddowch adre, ewch drwyddynt i dynnu unrhyw gynrhon ohonynt, a rhowch hwy ar y tan efo mymrun o ddwr ar waelod y sosban. Hoffaf ychwanegu sultanas ac afalau i’m rhai i, ond fydda i byth yn rhoi siwgr arnynt. Wedi 5 munud, maent yn barod.

Efo pump o blant oedd efo dant melys, byddai Mam yn ei gwaith yn ceisio cael pwdin gwahanol i ni drwy’r wythnos. Un cyfleus oedd ‘Pwdin Anti Besi’, a’r cwbwl oedd hwn oedd mwyar neu ffrwyth yn y gwaelod a sos gwyn ar y top. I wneud sos gwyn, toddwch 50g o fenyn, ychwanegwch 50 g o flawd wedi ei hidlo, cymysgwch y ddau am 2 funud, ac ychwanegu yn raddol beint o lefrith a gynheswyd eisioes. Yna ychwanegwch 2 owns o siwgr ar y diwedd wedi iddo dwchu. Hynod o syml, ac eto, mae’r cyfuniad o ffrwyth siarp a sos gwyn esmwyth yn gyfuniad hudolus. Diolch i Anti Besi, pwy bynnag oedd hi.

Os ydych yn hel mwy o fwyar nag ydych chi eu hangen, gallwch wastad eu gwerthu. Dyna wnaeth Cledwyn Jones, Triawd y Coleg, pan yn blentyn yn 1931. A be wnaeth efo’r elw? Prynu ei gopi cyntaf o Lyfr Mawr y Plant am dri swllt a chwech o siop Cloth Hall, Talysarn. Rhaid ei fod wedi hel dipyn go lew o fwyar duon!