Llyfr newydd y fam a’r ferch o’r Dyffryn

Dyma’r trydydd llyfr yng nghyfres Ynyr yr Ysbryd.

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Ynyr yr Ysbryd a’r Coblyn Bach yw’r llyfr newydd i blant yng nghyfres Rhian Cadwaladr a Leri Tecwyn, y fam a’r ferch o Rosgadfan.

Dyma’r trydydd llyfr yng nghyfres Ynyr yr Ysbryd.

Yn ôl yr awdures, Rhian:

“Fe daeth y syniad am Ynyr yr Ysbryd wedi i mi glywed athrawon yn dweud fod yna ddiffyg llyfrau ar y thema meddylfryd twf yn y Gymraeg – hynny yw llyfrau yn trafod dyfalbarhâd, cydweithio, defnyddio dychymyg a bod yn chwilfrydig.

“Dwi wedi mwynhau creu cymeriad sydd wedi tyfu mewn hyder yn ystod y gyfres o dri llyfr – o fod yn swil a nerfus ar y cychwyn i fod yn llawn dychymyg a chwilfrydedd a hefyd wedi cael ffrind da i fod wrth ei ochr yn ystod ei anturaeithau –  sef Pip y Dylwythen Deg.”

Yn y llyfr newydd mae gan Ynyr yr Ysbryd broblem – mae coblyn bach yn aflonyddu yn y tŷ. Bydd yn rhaid iddo fo a’i ffrind Pip y dylwythen deg gydweithio a defnyddio eu dychymyg i drio ei ddal!

Ychwanegodd Rhian:

“‘Dwi’n credu fod plant bach yn medru uniaethu efo Ynyr ac mae nhw hapus o’i weld yn llwyddo o ddangos dyfalbarhâd. Mae’r plant, a’r oedolion hefyd  wedi ymateb yn dda i’r lluniau ac yn y gyfrol yma mae yna ychydig mwy o haenau yn y lluniau gyda cliwiau bach i bwy sydd wedi bod yn creu drygioni yng nghartref Ynyr yn y lluniau.

“Dwi wedi dotio ar luniau Leri – pan welais i y llun o Ynyr am y tro cynta  – yn ysbryd mor annwyl yr olwg – roedd y straeon amdano yn dod yn hawdd wedyn. A deud y gwir dwi wedi dotio at luniau Leri ers pan afaelodd hi mewn pensel  am y tro cynta a  doedd hi ddim syndod o gwbwl i mi mai artist fyddai hi achos roddodd hi fyth y bensel yna i lawr!”

Wedi gyrfa fel actores a thiwtor drama, fe drodd Rhian ei llaw at ysgrifennu ar ôl iddi gael ei phen-blwydd yn hanner cant. Ers hynny mae wedi cyhoeddi pedair nofel – Fi sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu a Dathlu ynghyd â phedwar llyfr i blant bach – Nain, Nain, Nain  a’r gyfres Ynyr yr Ysbryd. Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfrol o rysetiau ac atgofion – Casa Cadwaladr.

Mae Rhian wrthi’n gweithio ar gyfrol o rysetiau Nadoligaidd ar y funud ynghyd a nofel newydd i oedolion i’w chyhoeddi yn haf 2024. Mae hefyd yn gobeithio cael cyfle i weithio efo Leri eto yn y dyfodol ac mae nhw wedi bod yn trafod ambell i syniad.

Mae Ynyr yr Ysbryd a’r Coblyn Bach ar gael ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.